Eira yn gorchuddio siroedd y gogledd
Eira yn gorchuddio siroedd y gogledd
Ganol Tachwedd a phob arwydd bod y tywydd yn troi.
Roedd y ffordd yng Ngherrigydrudion yn drwch o eira a rhai ffyrdd eraill ar gau yn gyfan gwbl.
Roedd ambell i ddamwain yma ac acw. Bu'n rhaid cau ffordd ddeuol yr A55 i un cyfeiriad yn Sir y Fflint.
Bu angen bwydo'r anifeiliaid yn Llanfihangel Glyn Myfyr gan nad oedd fawr o faeth yn y tir.
Yn Sw Bae Colwyn, roedd y llewpard eira yn teimlo'n gartrefol iawn. Ar ôl Hydref a dechrau Tachwedd tawel, mae'r gaeaf wedi cyrraedd.
Mae dros 160 o ysgolion wedi cau yn y gogledd-ddwyrain a'r canolbarth. Diwrnod llawn heriau i'r byd addysg.
Roedd Ysgol Cerrigydrudion ar agor ond roedd bylchau amlwg wrth i rai o'r staff fethu a chyrraedd.
"O'n ni'n gallu agor, oedd digon o staff i gymryd dosbarthiadau. Y plant yn gweld e'n antur ond dim yn gymaint o antur i'r staff.
"Mae'n iawn, ni gyd yma ac yn saff. Mae'r Dosbarth Derbyn a Blwyddyn Un wedi mynd i'r Bala i Sioe Cyw a dyna oedd yn bwysig."
Ond roedd y disgyblion wrth eu boddau'n gweld yr eira.
"Roeddwn i'n gyffrous i chwarae yn yr eira. "Cyn gwneud dyn eira, o'n i'n gwneud snow angels."
"Dw i'n hoffi'r eira i sledio a gwneud dyn eira."
"Sledio, gwneud dyn eira a peli eira i luchio ar bawb."
"Mae'r eira yn hwyl achos ni'n cael gwneud dyn eira a sledio a cael snowball fights adref."
Wrth i un rhybudd ddod i ben fe ddaeth un arall.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld bydd eira a rhew dros nos ac yfory.
Y rhybudd hwnnw'n berthnasol i ran o'r gogledd a'r canolbarth gan wneud golygfeydd fel hyn yn hollol bosib eto.