Newyddion S4C

Cau ysgolion unwaith yn rhagor o achos yr eira

Cau ysgolion unwaith yn rhagor o achos yr eira

Mae nifer o ysgolion wedi cau yn y gogledd a'r canolbarth unwaith eto ddydd Mercher yn dilyn rhagor o eira. 

Mae degau o ysgolion wedi cau yn ardaloedd Sir y Fflint, Powys, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd a Chonwy. 

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew i ran helaeth o Gymru, yn ogystal â rhybudd melyn arall am rew yn y de, a fydd mewn grym tan 10.00 bore Mercher. 

Maen nhw wedi rhybuddio am amodau gyrru gwael yn y gogledd-ddwyrain, a hynny wedi i sawl ffordd gael eu cau yn yr ardal honno ddydd Mawrth. 

Mae Gwasanaeth Traffig Cymru wedi annog pobl i “yrru yn ofalus” ac i addasu “eich gyrru i amodau’r ffordd” yn dilyn y rhybuddion tywydd.

Image
Defaid
Defaid ar dir fferm yn Llanbrynmair, Powys (Llun: Aled Wyn Davies)

Pa ysgolion sydd ar gau? 

Mae dros 30 o ysgolion wedi cau ym Mhowys. Dyma’r sir sydd â’r nifer fwyaf o ysgolion ar gau o achos yr eira ddydd Mercher. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yma

Yn Wrecsam, mae nifer o ysgolion ar gau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar y ddolen yma.  

Mae rhai ysgolion wedi cau yn Sir y Fflint hefyd. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y sir ar gael drwy glicio yma.

Yn Sir Ddinbych, ysgolion cynradd sydd wedi eu heffeithio’n bennaf gan y tywydd gaeafol ac sydd wedi cau. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Un ysgol sydd wedi cau yng Nghonwy ddydd Mercher, sef Ysgol Gynradd Bro Aled. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Mae rhai ysgolion bellach wedi cau yng Ngwynedd yn ogystal. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Llun gan Jen Jones o dref Groes yn Sir Ddinbych. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.