Newyddion S4C

Menywod 'ddim yn teimlo’n ddiogel wrth redeg yn y nos' yng Nghaerdydd

ITV Cymru
Anna-Lee Powell

Mae grŵp o fenywod sy’n rhedeg yng Nghaerdydd yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus yn mynd allan ar eu pennau eu hunain i ymarfer corff yn y nos.

Dywedodd Anna-Lee Powell, cyd-sylfaenydd Girls Who Run Cardiff,  na fyddai hi’n mentro allan, “oni bai ’mod i gyda o leiaf un neu ddwy o’r merched eraill.”

“Yr unig amser bydden i’n rhedeg nawr yw gyda’r merched”.

Mae nifer o fenywod ar draws y Deyrnas Unedig yn rhannu’r un pryderon ag Anna-Lee Powell, gan ddweud bod ymarfer corff yn y gaeaf yn eu gwneud nhw’n bryderus.

Mae arolwg gan ‘This Girl Can’ wedi dweud bod bron i dri chwarter o fenywod (72%) yn y DU yn newid eu gweithgareddau awyr agored yn ystod y gaeaf. 

Mae hyn yn gynnydd o 46% o’r flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl cyd-sylfaenydd arall y grŵp, mae’r ffaith bod llawer o oleuadau yng Nghaerdydd yn rhoi tawelwch meddwl i redwyr.

“Mewn gwirionedd, mae Caerdydd, oherwydd ei bod hi’n ardal drefol gyda llawer o oleuadau yn eithaf da,” meddai Bethan McKee.

Image
Bethan McKee Llun: ITV Cymru
Bethan McKee. Llun: ITV Cymru

“Dyw hi ddim yn neis i glywed nad yw rhai menywod eisiau mynd allan o gwbl i redeg oherwydd fe ddyle pawb deimlo fel eu bod nhw’n gallu mynd allan ac ymarfer corff.

“Gan fod y parciau yn fwy tywyll, ry’n ni’n dueddol o osgoi mynd yno, rhag ofn.”

'Cyfrifoldeb pawb'

Yn ôl Anna-Lee, ni ddylai’r cyfrifoldeb fod ar fenywod yn unig pan mae’n dod i ddiogelwch. 

“Mae angen addasu i ddysgu pawb sut i gadw menywod yn saff. Dylai bawb fod yn cymryd cyfrifoldeb.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein strategaeth yn nodi ymrwymiad i ganolbwyntio ar drais yn erbyn menywod mewn mannau cyhoeddus ac mae ein gwaith yn cynnwys llif gwaith i atal aflonyddu mewn lleoliadau chwaraeon ac mewn cymunedau ehangach. 

"Mae ein gweledigaeth wedi’i gefnogi gan yr ymgyrch 'Sain', sy'n annog dynion 18-34 oed yng Nghymru i ddysgu am drais ar sail rhywedd ac i feddwl am eu hymddygiad eu hunain.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.