Dedfrydu dyn am gyfathrebu'n rhywiol dros y we
Mae dyn wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio ar ôl pledio'n euog i drosedd ryw.
Cyfaddefodd Philip Leslie Taylor iddo geisio cyfathrebu’n rhywiol gyda merch yr oedd yn credu oedd yn 12 mlwydd oed.
Cafodd ddedfryd o garchar am 8 mis wedi ei gohirio.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Taylor wedi anfon negeseuon, gan gynnwys delwedd o natur rywiol at berson ar y fforwm cymdeithasol ‘Kik’ rhwng mis Mawrth ac Ebrill y llynedd.
Tra roedd yn meddwl ei fod yn siarad â phlentyn, roedd mewn gwirionedd yn cyfathrebu gyda swyddog heddlu cudd.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar wedi ei gohirio, cafodd ddirwy o £4000, a bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am 10 mlynedd.
Mae e hefyd wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion bregus.