Perfformiad 'siomedig' i Gymru yn erbyn yr Ariannin
Perfformiad 'siomedig' i Gymru yn erbyn yr Ariannin
Roedd hi'n brynhawn "siomedig" i Gymru yn dilyn eu colled yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn.
Cymru 11 - 33 Ariannin oedd y sgôr terfynol, gyda Chymru yn methu â chael ar y blaen yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn yr Archentwyr penwythnos diwethaf.
Owen Lane fu'n gyfrifol am sicrhau'r unig gais i Gymru yn ystod y gêm, gyda Jarrod Evans yn sicrhau pwynt arall yn ddiweddarach.
Fe lwyddodd Hallam Amos i osgoi cerdyn coch am daclo Santiago Carreras yn yr awyr, gan dderbyn cerdyn melyn yn lle'r coch.
Yn ôl y rheolwr Wayne Pivac, roedd y camgymeriadau yn "ormod ar gyfer y lefel yma o rygbi".
"Yn amlwg da ni'n siomedig gyda'r canlyniad, wnaethon ni ddim chwarae mor dda ag y hoffen ni fod wedi ei wneud," meddai.
"Ond roedden ni yn erbyn tîm da iawn ac Ariannin benderfynol iawn, yn enwedig yn yr ail hanner.
"Roedd y camgymeriadau a wnaethon ni yn ormod ar gyfer y lefel yma o rygbi, felly mae'n wers i lot o bobl."
Ychwanegodd fod y ddwy ochr i wedi ei gweld yn heriol chwarae yn y tywydd crasboeth, gyda'r tymheredd yng Nghaerdydd yn cyrraedd o ddeutu 29°C.
Ar ddiwedd y tymor i Gymru, eglurodd Pivac fod y gemau wedi caniatáu i'r tîm "ddysgu llawer, nid yn unig yn y gemau, ond yn y sesiynau hyfforddi hefyd".