Newyddion S4C

Carchar y Parc: Mam yn galw am ymchwiliad ar ôl marwolaeth ei mab

ITV Cymru
itv carchar parc.png

Mae mam yn galw am ymchwiliad wedi i’w mab farw yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Y gred yw bod Ryan Harding wedi marw o orddos y cyffur ‘sbeis’ y llynedd. Mae cwest i’w farwolaeth eto i'w gynnal.

Mae 17 o garcharorion wedi marw yng Ngharchar y Parc eleni. Nid yw pob marwolaeth yn ymwneud â chyffuriau, ond mae wyth yn gysylltiedig ag achosion annaturiol. 

Yn ôl Heddlu De Cymru mae’r cyffur ‘Nitazene’, sydd yn gryfach na heroin yn gysylltiedig â phedair marwolaeth yno.

Mae tua 700 o’r staff wedi cael hyfforddiant meddygol yn dilyn y marwolaethau.

Ryan Harding

Dywedodd Catherine Harding, mam Ryan nad oedd hi’n ymwybodol bod ei mab yn defnyddio cyffuriau caled. 

Roedd Ryan Harding, 26 oed yn dod i ddiwedd dedfryd 18 mis am achosi difrod troseddol a bygythiadau i ladd.

“Y tro olaf nes i siarad gyda fe oedd y dydd cyn iddo farw,” dywedodd Ms Harding wrth ITV Cymru.

“Gofynnodd Ryan; ‘Ydych chi’n dal i anfon arian ataf, mam?’ a ‘Rwy’n dy garu di, mam’. Doeddwn i ddim yn gwybod mai dyma fyddai'r tro diwethaf i mi siarad ag e.”

Image
Catherine Harding
Catherine Harding, mam Ryan Harding.

Ychwanegodd Catherine Harding: “Dim ond saith wythnos oedd ganddo ar ôl [yn y carchar] ac roedd yn edrych ymlaen at ddod allan a newid ei fywyd.

“Dydw i ddim yn deall o gwbl.

“Dw i’n beio G4S a’r carchar [am farwolaeth Ryan] oherwydd iddyn nhw ganiatáu i gyffuriau ddod i mewn i’r carchar.

"Rydych chi'n mynd i'r carchar i ymweld â rhywun ac rydych chi'n cael eich archwilio. Pam nad yw swyddogion y carchar yn cael eu harchwilio?

"Mae'r sbeis yna'n gallu lladd a phe bai fy mab yn gwybod y byddai'n marw ni fyddai wedi ei gymryd. Yn bendant ddim."

Dywedodd G4S, y cwmni sy'n rheoli'r carchar, fod mesurau diogelwch wedi'u cryfhau'n sylweddol, gan gynnwys cynnydd yn nifer y staff archwilio pwrpasol, cŵn patrôl ac offer arbenigol fel dyfeisiau canfod cyffuriau a sganwyr corff pelydr-X.”

Ychwanegodd, “Fel gyda phob carchar caeedig, mae Carchar y Parc yng nghanol brwydr barhaus gyda grwpiau troseddau sy'n ceisio cludo cyffuriau i garchardai gan ddefnyddio llwybrau amrywiol.

Cyn-garcharor: ‘Mae ar gael yn eang’

Bron i ddwy flynedd ers marwolaeth Ryan, mae cyn-garcharor sydd wedi’i ryddhau’n ddiweddar o Garchar Parc yn dweud ei bod hi’n hawdd cael gafael ar sbeis pan rydych chi o dan glo a bod y cyffuriau sy’n dod i mewn yno, yn arwain at drais.

“Rwyf wedi gweld pobl yn cael eu hanafu yn ofnadwy yn bennaf oherwydd cyffuriau”, meddai wrth ITV Cymru.

Image
Meddai un cyn-carcharor a gafodd ei rhyddhau yn ddiweddar o Garchar y Parc bod sbeis yn hawdd cael gafael o pan ydych chi du fewn.
Yn ôl cyn-garcharor, mae'n hawdd cael gafael ar y cyffur sbeis yng Ngharchar y Parc. 

Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc: “Rydym yn anfon ein cydymdeimlad at Ms Harding a’r teuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid.

“Yn bendant nid yw mwyafrif yr honiadau a wnaed gan y cyn-garcharor yn wir.

“Defnyddir ymdrech ac adnoddau sylweddol i fynd i’r afael â’r cyflenwad o gyffuriau anghyfreithlon ac rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru i ddarparu cudd-wybodaeth a thystiolaeth.

“Mae mwyafrif helaeth ein staff yn onest ac yn gweithio'n galed. Yn yr achosion prin lle canfyddir bod staff wedi bod yn rhan o ddrwgweithredu, cymerir camau cadarn, hyd at, ac yn cynnwys erlyniad.

Image
Meddai cynrychiolwr am y carchar: “Mae ymdrech sylweddol ag adnoddau yn cael ei ddefnyddio i daclo’r cyflenwad o gyffuriau anghyfreithlon.”
Meddai cynrychiolwr am y carchar: “Mae ymdrech sylweddol ag adnoddau yn cael ei ddefnyddio i daclo’r cyflenwad o gyffuriau anghyfreithlon.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae nifer yr achosion o drais wedi gostwng yn sylweddol rhwng Ebrill a Hydref 2024.”

" Mae pob ymwelydd â'r carchar yn cael ei archwilio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.