Clwb rygbi yn y gogledd yn annog trafodaeth am iechyd meddwl
Clwb rygbi yn y gogledd yn annog trafodaeth am iechyd meddwl
Wnes i dyfu i fyny yn chwarae efo Aaron.
Oedd o'n chwarae'n dda bob wsos ac yn gadael bob dim ar y cae.
Ond wedyn, doedden ni ddim yn gwybod be oedd yn digwydd off y cae.
Ar ôl cyfnod byr o salwch meddwl mi wnaeth Aaron Newman ladd ei hun fis Rhagfyr diwethaf yn 20 oed gan adael ei deulu a'i ffrindiau yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy gyda'u hatgofion a'u cwestiynau.
'Dan ni'n colli Aaron, wrth y bwrdd yn cael peint ar nos Sadwrn ar y group chat pan oedd o'n gyrru tecst funny a ballu.
Amser caled i ni ac i'w deulu.
Pam bod hi mor anodd siarad?
Mae'n tabŵ dw i'n meddwl.
I ddynion yn enwedig, bod agori fyny yn dangos gwendid hwyrach.
Yn enwedig i hogia rygbi, mae'r gêm mor gorfforol a ti angen dangos dy gryfder.
Mae agor i fyny'n bwysig ond dw i'm yn meddwl bod pobl yn gwybod faint.
Mae pawb yn stryglo, mae hynna'n ffaith.
Dydy pawb ddim yn agor i fyny sy'n arwain at bethau drwg.
Mae'r grŵp yma yn Nant Conwy, pwyllgor Dal Dy Dir yn ceisio helpu pobl â thrafferthion iechyd meddwl.
Un o'r aelodau ydy tad Aaron Newman sy'n deud mai trwy fwrw ei hun i waith fel hyn mae o'n cael nerth i wynebu colli ei fab.
We were aware there were some issues.
In fairness, he was signposted for some support.
I think for Aaron, that was a breach of his character reaching out for support for what he perceived was silly.
There was a reluctance to really engage in that process.
The work that we're doing around Nant Conwy is to break down stigma.
Mae ffigyrau swyddogol yn awgrymu bod cyfraddau hunanladdiad ar ei uchaf ers 1999, yn gyfrifol am 11.4 marwolaeth o bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr.
Roedd y gyfradd yn uwch ymysg dynion eto yr uchaf ers chwarter canrif.
Ymysg merched roedd y gyfradd ar ei huchaf ers 1994.
Ymhob cymuned ymhob maes ar bob lefel mae pobl yn dioddef.
Ceisiodd y chwaraewr rygbi proffesiynol, Harri Morgan ladd ei hun llynedd ac mae'n deud
y bydd yn rhoi'r gorau i rygbi er mwyn gwarchod ei iechyd meddwl.
A lot of the negatives were always leading back to rugby and its impact on me in terms of the injuries and stuff and the pressures of being in a professional environment.
I didn't feel like I could say anything cause I was letting down teammates and coaches.
Fel rhan o'r ymgyrch yn Nant Conwy bydd rhai aelodau yn gwisgo nwyddau i roi gwybod i eraill y gallen nhw geisio helpu.
Bydd cod QR ar fainc yn y clwb yn arwain pobl at wefannau fel y Samariaid a Sefydliad DPJ.
'Dan ni mewn ardal amaethyddol cryf iawn fan hyn.
Fel dach chi'n gwybod mae 'na broblemau enfawr mewn amaeth.
Aelod arall o grŵp Dal Dy Dir ydy Alun Jones sy'n hyfforddwr sydd wedi byw gydag iselder yn y gorffennol.
Dw i'n saff o fedru deud bod fi'n dda iawn rwan.
Mae lot o asiantaethau wedi fy helpu ar y ffordd ac ar y daith.
Tan bod rhywun yn siarad a derbyn lle maen nhw yn y broses iselder does dim modd symud allan ohono.
Mae'r grŵp yma, Dal dy Dir, i fedru helpu ac annog eraill i agor allan a siarad yn rhywbeth pwysig iawn fel clwb.
Mi gafodd gêm goffa ei chwarae i Aaron Newman ddiwedd yr haf.
Mae'r cofio'n parhau ac ymwybyddiaeth yn Nant Conwy a thu hwnt bod trafferthion iechyd meddwl yn medru llethu unrhyw un hyd yn oed y cryf a'r gwydn, y caled a'r dewr.