Ethol Nia Jeffreys yn arweinydd Grŵp Plaid Cymru Cyngor Gwynedd
Mae Nia Jeffreys wedi ei hethol yn arweinydd newydd Grŵp Plaid Cymru Cyngor Gwynedd wedi i Dyfrig Siencyn ymddiswyddo fis diwethaf.
Ms Jeffreys yw arweinydd dros dro'r cyngor ar ôl ymddiswyddiad Mr Siencyn ar 17 Hydref yn dilyn beirniadaeth am ymateb y cyngor i achos y pedoffeil Neil Foden.
Mae wedi bod yn ddirprwy arweinydd y grŵp ers 2022.
Nos Fercher cafodd Nia Jeffreys, sydd yn cynrychioli ward Dwyrain Porthmadog, ei hethol gan aelodau Plaid Cymru Cyngor Gwynedd. Hi yw arweinydd benywaidd cyntaf y grŵp.
Mae disgwyl iddi gael ei hethol yn arweinydd ar Gyngor Gwynedd hefyd.
Mae hi'n aelod o'r cabinet ac yn rhan o nifer o bwyllgorau ar y cyngor gan gynnwys Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.
Dywedodd Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd bod Ms Jeffreys yn deall Gwynedd a'i chymunedau.
“Mae gan Nia gyfoeth o brofiad fel cyn-Ddirprwy Arweinydd y cyngor yn ystod cyfnod heriol i lywodraeth leol.
"O bandemig Covid i’r argyfwng ariannu sy’n wynebu cynghorau, mae Nia wedi bod yn llais cadarn," meddai.
“Mae wedi ei gwreiddio yn ei chymuned leol ym Mhorthmadog, cymuned sydd, mewn sawl ffordd, yn feicrocosm o Wynedd.
"Mae llawer o’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n byw yno yn cael eu hwynebu gan gymunedau eraill ar draws Gwynedd boed hynny’r argyfwng tai, diffyg cyfleoedd economaidd, neu ddiffyg isadeiledd gwledig.
“Mae hi’n deall Gwynedd a’i chymunedau, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi i wella bywydau pobol ar draws fy etholaeth.”