'Sgrechfeydd ofnadwy' wrth i ddyn ladd ei ffrind yn Llandaf
Clywodd llys fod "sgrechfeydd ofnadwy" wedi'u clywed wrth i ddyn ladd ei ffrind yn eu cartref yn Llandaf ar Noswyl Nadolig.
Mae Dylan Thomas, 24, wedi ei gyhuddo o lofruddio William Bush, 23, ar 24 Rhagfyr y llynedd.
Mae Thomas wedi pledio'n euog i ddynladdiad, ond mae'n gwadu llofruddiaeth.
Ymddangosodd o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher drwy gyswllt fideo o ysbyty seiciatrig.
Ar ran yr erlyniad, dywedodd Gregory Bull KC fod y diffynnydd wedi dweud wrth ei ffrind fis neu ddau cyn y digwyddiad: "Dwi wedi meddwl am dy ladd di, ro'n i jest eisiau gweld beth fyddai'n digwydd pe bawn i'n gwneud rhai pethau penodol."
Dywedodd cariad Mr Bush wrth yr heddlu fod y bygythiad wedi dychryn ei chariad.
Disgrifiodd Mr Bull y digwyddiadau a arweiniodd at y digwyddiad, gyda "sgrechfeydd ofnadwy" yn cael eu clywed o'r stryd o gyfeiriad y cartref yn ystod yr ymosodiad.
'Cyflwr ofnadwy'
Dywedodd yr erlynydd wrth y llys fod Thomas wedi cael ei yrru gan ei fam-gu i'r cartref yr oedd yn ei rannu gyda Mr Bush yn Llandaf ar Noswyl Nadolig. Roedd wedi dweud wrthi ei fod eisiau mynd â'r ci am dro.
Wedi cymryd cyllyll o'r gegin, dywedodd yr erlyniad fod Thomas wedi mynd i fyny'r grisiau ac i mewn i ystafell Mr Bush.
Ychwanegodd Mr Bull: "Mae'n glir fod Dylan Thomas wedi defnyddio'r gyllell gegin i drywanu Mr Bush yn ei frest a thorri ei wddf gan dorri'r rhydweli (artery) fawr yn y gwddf. O ganlyniad i hyn, fe wnaeth Mr Bush waedu i farwolaeth."
Dywedodd Thomas wrth yr heddlu ei fod wedi trywanu Mr Bush wrth geisio amddiffyn ei hun.
Clywodd y llys fod Thomas wedi ei arestio o'r blaen wedi iddo geisio torri mewn i Balas Buckingham. Roedd wedi ceisio dringo ffens 14 troedfedd cyn iddo gael ei ddal.
Mae'r achos yn parhau.