Newyddion S4C

Yr actor Timothy West wedi marw yn 90 oed

13/11/2024
timothy west.png

Mae'r actor Timothy West wedi marw yn 90 oed. 

Roedd yn adnabyddus am serennu mewn nifer o rolau ar y teledu ac yn y byd theatr, gan gynnwys yr operâu sebon Coronation Street ac Eastenders. 

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau ar y cyd, dywedodd ei blant fod yr actor wedi marw "yn heddychlon yn ei gwsg" ac roedd "gyda'i ffrindiau a'i deulu hyd y diwedd".

Fe ddisgrifiodd Juliet, Samuel a Joseph West eu tad fel rhywun "oedd wedi byw bywyd anhygoel ar ac oddi ar y llwyfan".

Mae hefyd yn gadael ei wraig, seren Fawlty Towers Prunella Scales, ac roedd yn briod iddi am 61 o flynyddoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.