Newyddion S4C

Galwad am gymorth er mwyn osgoi teithio dramor am lawdrinaeth colli pwysau

Newyddion S4C 12/11/2024

Galwad am gymorth er mwyn osgoi teithio dramor am lawdrinaeth colli pwysau

Fe ddylai’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gynnig mwy o lawdriniaethau sy’n helpu pobl i golli pwysau er mwyn atal y niferoedd sy’n teithio dramor yn ôl ymgyrchwyr.

Ddydd Llun daeth cwest yng Nghaernarfon i gasgliad bod mam o Fangor wedi marw ar ôl teithio i Dwrci i leihau maint ei stumog.

Yn ôl rhai sydd wedi talu’n breifat am lawdriniaethau tebyg, mae’r llawdriniaethau wedi “newid eu bywydau” ac maen nhw'n galw am wella dealltwriaeth o gyflyrau sy’n arwain at or-dewdra.

Ond dweud mae Llywodraeth Cymru mai “mond ar gyfer pobl â gordewdra difrifol a chymhleth y caiff llawdriniaethau colli pwysau eu hystyried”.

Wedi degawdau o geisio colli pwysau mi benderfynodd Bethan Antur sy’n 59 ac o Lanuwchllyn ym Meirionnydd ei bod hi am gael llawdriniaeth debyg.

'Teimlo'n anghyforddus'

Ond er iddi ddweud bod ei meddyg wedi cytuno, awgrymwwyd iddi dalu’n breifat gan na fyddai’r gwasanaeth iechyd yn gallu cynnig hynny.

“Ers yn bymtheg oed dwi’n teimlo dwi ‘di bod ar un deiat ar ol y llall”, meddai Bethan Antur wrth raglen Newyddion S4C.

“Da chi’n teimlo bo chi’n colli pwysau, wedi rhoi o nol mlaen ac yna ‘da chi’n trio deiat arall, mae’r pwysau’n dod lawr eto ond os da chi’m yn cadw  fyny mae’r pwysau yn ei ôl.

“Dwi’n typical yo yo dieter dros fy mywyd i gyd”.

Yn ôl Bethan roedd ei hunan hyder yn “dirywio” ac roedd hi'n gweld hi’n anodd gwneud pethau.

“Roedd ‘na bethau oni’n gwrthod gwneud fel peidio mynd i lefydd oherwydd oni’n teimlo’n anghyffyrddus efo fi fy hun mewn ffordd”.

'Fi fy hun eto'

Wedi blynyddoedd o geisio colli pwysau, mi benderfynodd felly dalu am gastric bypass yn y Deyrnas Unedig, sy’n math o lawdriniaeth i leihau maint y stumog.

Ers cael y lawdriniaeth mai’n dweud bod o wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.

“Yn gorfforol dwi ddim ar unrhyw dabledi, ond yn feddyliol mae’r effaith di bod mwy gadarnhol fyth.

“Dwi di dod nôl yn fi fy hun mewn ffordd achos mae problemau bwyd.. dydi pobl ddim yn deall”.

Yn ôl Bethan Antur fe ddylai’r gwasanaeth iechyd gynnig mwy o driniaethau tebyg er mwyn osgoi pobl yn gwneud y daith dramor ac yn derbyn llawdriniaethau.

Ddydd Llun daeth cwest yng Nghaernarfon i gasgliad bod mam o Fangor, Janet Lynne Savage wedi gwaedu i farwolaeth wrth ddebryn llawdriniaeth colli pwysau yn Nhwrci.

Un wnaeth y daith i Dwrci am lawdriniaeth hefyd ydi Iestyn Owen sydd bellach yn byw yn Iwerddon.

Ar ol colli 11 ston roedd Iestyn am gael gwared â chroen o’i fol- ond gan wynebu unai ffi o £15,000 i fynd yn breifat yn y DU neu flynyddoed ar restr aros y GIG, mi benderfynodd deithio i Dwrci a thalu £5,000.

Image
iestyn

“Yn amlwg swni wedi licio cael gwneud o’n agosach at adref”, meddai Iestyn Owen.

“Ma’n llawndriniaeth hollol boenus ac oni ffwrdd yn bell mewn gwlad hollol ddiarth.

“Oedd mam yn ffonio bob munud yn crïo eisiau gwybod be oni’n neud.

“Ond eto oni’n teimlo doeddwni ddim isho bod yn fyrdwn ar y gwasanaeth iechyd felly i fi swni licio bod na mwy o gymorth allan yna i bobl allu cael y llawdriniaeth yn agosach ac yn y wlad yma”.

Dweud eto mae Bethan Antur y dylai’r Gwasanaeth Iechyd edrych eto ac edrych ar lawdriniaethau tebyg fel rhai “ataliol”.

“Os da chi’n rhoi llawdriniaethau ataliol fel hyn da chi am arbed y gwasanaeth iechyd nes ymlaen.

“Mae angen dipyn mwy o ddealltwriaeth a chydymdeimlad o beth sy’n achosi gordewdra achos dio ddim yn syml o gwbl."

Yn ôl Llywodraeth Cymru “dim ond ar gyfer pobl â gordewdra difrifol a chymhleth y caiff llawdriniaethau colli pwysau eu hystyried.

“Fe’i comisiynir gan Bwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru i sicrhau mynediad teg a chyfartal at wasanaethau llawfeddygaeth”

Mae "cymorth a thriniaethaeu eraill" meddai llefarydd ac mae nhwn annog unrhyw un sy’n “ystyried gofal iechyd preifat i wneud ymchwil trylwyr cyn cael triniaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.