'Ergyd fawr' pe bai campws Llanbed yn cau medd AS
'Ergyd fawr' pe bai campws Llanbed yn cau medd AS
Mae angen i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddarbwyllo pobl yr ardal "bod 'na ddyfodol i'r campws yn Llanbed" yn ôl yr Aelod Seneddol lleol.
Daw sylwadau Ben Lake ar ôl i'r brifysgol gyhoeddi ddydd Llun eu bod yn ymgynghori gyda staff a myfyrwyr y campws ynglŷn â chynnig i symud y ddarpariaeth dyniaethau i Gaerfyrddin o fis Medi 2025 ymlaen.
Dywedodd Ben Lake y byddai cau'r campws yn ergyd fawr i'r gymuned.
“Ma’n rhan bwysig o hunaniaeth a threftadaeth y dre’. Nid yn unig i’r gymuned academaidd ond hefyd i’r gymuned ehangach," meddai.
“Felly mae unrhyw newid fel hyn yn mynd i achosi cryn dipyn o bryder yn lleol.
"Beth sy’n bwysig nawr yw bod y brifysgol yn dod ‘mlaen gyda chynlluniau clir i ddarbwyllo’r gymuned ehangach bod ‘na ddyfodol i’r campws yn Llanbed oherwydd heb os fe fydd yna ergyd mawr ar y gymuned pe bai’r campws yn cau.”
Yn ôl y brifysgol, mae'r campws yn Llanbedr Pont Steffan wedi gweld dirywiad cynyddol yn nifer y myfyrwyr a dyw'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy.
Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mercher i drafod y "ffordd orau ymlaen".
Mewn e-bost dywedodd y brifysgol y bydd cyfarfod am 13:00 ddydd Mercher gyda myfyrwyr yn adeilad yr Hen Neuadd. Bydd "mwy o wybodaeth" yn y cyfarfod meddai'r e-bost a bydd y brifysgol yn "amlinellu'r camau nesaf."
Ychwanegodd y brifysgol bod adolygiad wedi cael ei gynnal ers dechrau'r haf gyda'r nod "o wella ein profiad cyffredinol i fyfyrwyr a chryfhau ein rhaglen".
Mae'r brifysgol wedi bodoli ers dros 200 mlynedd a dyma'r sefydliad hynaf yng Nghymru sydd yn dyfarnu graddau.
'Colled ledled y byd'
Mae Elis Williams-Huw yn fyfyriwr yn y brifysgol ac yn erbyn cynlluniau i gau'r campws yn Llanbed.
“Ma’ lot o bobl yn dod yma oherwydd bod e allan o’r ffordd tipyn bach," meddai.
“Yn siarad gyda myfyrwyr rhyngwladol sy’n dod fan hyn, ma’r lle ma yn unigryw i gymharu i lot o'r llefydd ddim jyst yng Nghymru a Prydain.
“Ma’ wir yn golled i, nid jyst y gymuned, ond hanes addysg uwch ledled y byd.”
Yn ôl y brifysgol dyw hi ddim yn briodol iddyn nhw rannu mwy o wybodaeth nes eu bod nhw wedi siarad gyda staff a myfyrwyr.