Newyddion S4C

Corff dyn heb ei ddarganfod am fisoedd wedi iddo fynd ar goll yn Eryri

David Brookfield

Ni chafodd corff dyn 65 oed ei ddarganfod am fisoedd wedi iddo fynd ar goll ar un o fynyddoedd Eryri, clywodd cwest.

Bu farw David Brookfield ar ôl syrthio oddi ar fynydd Pen yr Ole Wen yn ardal y Carneddau.

Roedd yn gerddwr profiadol a newydd ymddeol o'i swydd fel rheolwr ymddiriedolaeth dai ac yn byw yn Sir Gaerhirfryn.

Dywedodd Kate Robertson, uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru yn y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mawrth bod marwolaeth Mr Brookfield yn "ddamwain drasig."

Roedd David Brookfield yn cerdded ar Ben yr Ole Wen ym mis Ionawr eleni cyn iddo fynd ar goll.

Anfonodd Mr Brookfield neges at ei wraig, Lesley ar WhatsApp yn dweud ei fod wedi dringo ei fynydd cyntaf.

Ni chlywodd ganddo ar ôl y neges honno.

'Llwybrau llithrig'

Dywedodd y crwner ei bod yn debygol bod llwybrau yn llithrig o gwmpas y mynydd.

Cafodd achubwyr mynydd, hofrennydd, dronau a chŵn eu hanfon i geisio dod o hyd i Mr Brookfield ond ofer fu'r chwilio amdano.  

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan griw achub, bedwar mis yn ddiweddarach ar 9 Mai.

Dywedodd y crwner wrth ei deulu "nid wyf yn gallu dychmygu'r boen, efallai hyd yn oed y galar, yr oeddech chi wedi teimlo am nifer o fisoedd.

"Roedd yn amlwg bod ganddo nifer o flynyddoedd o fywyd o'i flaen."

Cofnododd reithfarn o farwolaeth ddamweiniol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.