Newyddion S4C

Dyn o Bort Talbot yn y llys am chwarae cerddoriaeth yn San Steffan

11/11/2024
Steve Bray

Mae Steve Bray, 55, yn gwadu honiadau iddo anwybyddu gwaharddiad sain gan yr heddlu fis Mawrth, drwy osod chwyddleisydd (amplifier) ar sgwâr y tu allan i Dŷ'r Cyffredin yn Llundain.  

Plediodd yn ddieuog mewn achos blaenorol fis Awst. 

Mae'r Cymro yn adnabyddus am chwarae cerddoriaeth tra'n protestio yn erbyn polisïau San Steffan. 

Fe chwaraeodd y gân Things Can Only Get Better wrth gatiau Downing Street pan gyhoeddodd Rishi Sunak ei fod yn galw Etholiad Cyffredinol yn ystod glaw trwm fis Mai diwethaf. 

Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Dinas Llundain ddydd Llun, plediodd yn ddieuog i fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfridoldeb Cymdeithasol 2011.  

'Hawl sylfaenol' 

Yn cynrychioli ei hun, dywedodd Steve Bray wrth y llys: "Rydw i'n dal i wneud yr hyn yr ydw i wastad wedi ei wneud." 

"Mae gennym sawl cân sy'n berthnasol i'n protest. 

"Dyden ni ddim yn eu chwarae'n uchel iawn gydol y dydd.

"Mae'n rhan o'n hawl sylfaenol i brotestio."

Clywodd y llys nad oedd modd i'r achos llys ddechrau ddydd Llun, gan na dderbyniodd Mr Bray dystiolaeth yr erlyniad tan ddydd Sadwrn, ac nad oedd yr amser hwnnw'n ddigonol. 

O ganlyniad, cafodd Steve Bray ei ryddhau ar fechnïaeth a chafodd yr achos ei ohirio tan 10 Ebrill 2025.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.