Newyddion S4C

June Spencer o'r Archers wedi marw yn 105 oed

08/11/2024
Peggy Woolley - The Archers

Mae'r actor June Spencer a chwaraeodd ran Peggy Woolley ar gyfres The Archers ar BBC Radio 4 wedi marw yn 105 oed. 

Mewn datganiad , dywedodd ei theulu iddi farw yn dawel yn ei chwsg yn ystod oriau mân y bore. 

"Mae ei theulu yn dymuno diolch i staff Liberham Lodge, a fu'n gofalu amdani mor dyner yn y ddwy flynedd ddiwethaf," meddai'r datganiad ar ran y teulu. 

Chwaraeodd ran Peggy Woolley o 1951 tan 2022, gam ymddeol yn 103 oed. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.