Anobaith brawd Suzy Lamplugh wedi marwolaeth y dyn oedd yn cael ei amau o'i lladd
Mae brawd Suzy Lamplugh wedi dweud na chaiff ei deulu fyth atebion cadarn, wedi marwolaeth y dyn oedd yn cael ei amau o'i llofruddio.
Bu farw John Cannan yng ngharchar Full Sutton, Sir Efrog ddydd Mercher. Roedd e'n 70 oed.
Cafodd ei garcharu am isafswm o 35 mlynedd yn 1989 am dreisio a llofruddio Shirley Banks, a oedd yn rheolwraig mewn ffatri ym Mryste.
Yn 2002, dywedodd yr awdurdodau mai fe oedd y prif berson a oedd yn cael ei amau, wedi diflaniad yr asiant tai Suzy Lampugh yn 1986.
Roedd e'n gwadu hynny.
Wrth ymateb i'w farwolaeth, dywedodd brawd Ms Lamplugh, Richard Lamplugh, 64, nad oedd yn "galaru" am John Cannan, ond yn hytrach yn "galaru" na fyddai fyth yn cael atebion cadarn.
Dywedodd wrth The Telegraph: “Doeddwn i erioed eisiau cwrdd â'r dyn, er i fy rhieni gyfarfod ag e.
“Yn fy marn i, roedd e'n ddyn cas. Doeddwn i ddim yn mynd i ymbilio arno am wybodaeth.”
Cyhoeddodd yr awdurdodau fod Suzy Lamplugh wedi marw, a'i bod hi yn bur debyg wedi ei llofruddio, ar ôl iddi ddiflannu ym mis Gorffennaf 1986, a hithau'n 25 oed.
'Mr Kipper'
Fe adawodd hi ei swyddfa yng ngorllewin Llundain er mwyn cwrdd â chwsmer o'r enw “Mr Kipper” gyda'r bwriad o ymweld â fflat yn yr ardal.
Roedd ei char, Ford Fiesta gwyn, wedi ei adael ar Ffordd Stevenage yn Fulham, gorllewin Llundain, ac roedd yr heddlu yn credu iddi gael ei chipio a'i llofruddio.
Cafodd Cannan ei holi yn y carchar am ei diflaniad. Ni chafodd ei gyhuddo.
Roedd ei brawd, Richard Lamplugh, yn 26 adeg ei diflaniad, ac yn gweithio mewn fferm bysgod yn sir Hertford.
"Dyden ni erioed wedi medru gwir alaru am Suzy," meddai.
“Mae'n drist nad yw fy rhieni yma bellach. Byddem wir eisiau gwybod lle mae Suzy wedi ei gadael, a gwasgaru ei llwch yn yr un fan â llwch fy rhieni.”
Fis Hydref y llynedd, pendefynodd y bwrdd parôl nad oedd modd rhyddhau Cannan o garchar am ei fod yn rhy beryglus.
Llun: PA