Y Drenewydd yn teithio i Aberystwyth ar ôl diswyddo eu rheolwr
Wedi ychydig yn llai na blwyddyn wrth y llyw, mae’r Drenewydd wedi diswyddo Scott Ruscoe wrth i’r gŵr 46 mlwydd oed ddod y trydydd rheolwr i golli ei swydd y tymor hwn.
Mae’r Drenewydd yn y 9fed safle, a Callum McKenzie fydd yn rheoli dros dro ar ddechrau cyfnod allweddol i’r Robiniaid gyda’u tair gêm nesaf yn erbyn timau eraill o’r hanner isaf.
Saith rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac ar y funud mae sawl enw mawr yn eistedd yn yr hanner isaf ac yn gobeithio cipio lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Mae’r Bala, Cei Connah a’r Drenewydd yn glybiau sydd wedi cystadlu’n gyson yn yr hanner uchaf dros y degawd diwethaf ac mae’n syndod gweld y timau hynny yn llechu yn yr hanner isaf.
Bydd y Robiniaid yn teithio i Geredigion i wynebu Aber nos Wener, a hynny ar ôl ymadawiad eu rheolwr Scott Ruscoe, ganol wythnos.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewtownAFC/status/1853811589528338651
Aberystwyth (12fed) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Wener – 19:45
Mae’r tymor yn mynd yn waeth ac yn waeth i Aberystwyth ar ôl i’r Gwyrdd a’r Duon lithro i waelod y tabl yn dilyn colled drom yn Llansawel y penwythnos diwethaf.
Mae Aberystwyth wedi colli 11 o’u 12 gêm gynghrair ddiwethaf ac mewn perygl gwirioneddol o syrthio allan o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed.
Y Drenewydd yw’r unig glwb arall sydd wedi bod yn holl-bresennol ers ffurfio Uwch Gynghrair Cymru yn 1992, a tydi pethau ddim yn fêl i gyd yn fanno chwaith.
Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf mewn pump o’r chwe thymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd y tymor hwnnw.
Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan bod y Robiniaid m’ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf a syrthio o’r trydydd i’r nawfed safle.
Er hynny, mae’r Drenewydd ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth (ennill 6, cyfartal 1), yn cynnwys buddugoliaeth o 4-1 ar Barc Latham ar benwythnos agoriadol y tymor.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏❌❌✅❌❌
Y Drenewydd: ͏❌✅❌❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru