Cadarnhau y bydd gŵyl Green Man yn digwydd ym mis Awst

Bydd gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru yn cael ei chynnal ym Mannau Brycheiniog fis Awst ar ôl i’r pandemig orfodi’r trefnwyr i’w chanslo y llynedd.
Gyda thocynnau eisoes wedi gwerthu allan, bydd gŵyl Green Man yn digwydd rhwng 19-22 Awst.
Bydd gofyn i bawb dros 16 oed brofi eu bod wedi derbyn prawf llif unffordd negyddol o fewn 48 awr o gyrraedd yr ŵyl, neu eu bod nhw wedi derbyn dwy ddos o frechlyn Covid-19.
Bydd Cymru’n symud at lefel rybudd sero ar 7 Awst “os yw’n bosib”. Golygai hyn na fydd angen o reidrwydd i bobl gadw pellter cymdeithasol yn ystod yr ŵyl, boed hynny tu allan neu o dan do.
Mae Green Man fel arfer yn croesawu hyd at 25,000 o bobl i’r ŵyl.
Meddai perchennog yr ŵyl Fiona Stewart fod meddwl am “fod ‘nôl yn y caeau gyda’n gilydd eto” wedi “teimlo fel breuddwyd ar adegau.”
“Galla i ddim dweud wrthoch chi faint mae’n ei olygu i mi, a’r miloedd o bobl sydd yn dibynnu ar Green Man a sydd yn gyfrifol am sicrhau ei bod hi’n digwydd, bod yr ŵyl yn mynd i ddigwydd.
“Dydyn ni methu aros i weld pobl yn mwynhau’r ŵyl eto.
“Rydw i’n hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a roddodd yr hyder i mi redeg yr ŵyl eleni ac arian trwy’r Gronfa Adferiad Diwylliannol.
Mae Green Man yn ŵyl annibynnol sy’n cael ei rhedeg gan gwmni bach ym Mhowys, a byddwn ni wedi bod mewn trafferth heb y cymorth hyn.”
Gall rheiny gyda thocynnau sydd methu mynychu’r wyl gario’u tocynnau ymlaen at y flwyddyn nesaf, neu cael eu harian yn ôl tan 5yh ar 23 Gorffennaf.
Bydd tocynnau’n cael eu hailwerthu ar 27 Gorffennaf.
Pwy fydd yn perfformio?
Bydd y cerddorion Cymreig Gruff Rhys, Gwenno, Catrin Finch, a Charlotte Church ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl.
Rhai o brif berfformwyr yr ŵyl fydd Little Dragon, Caribou, Mogwai, Fontaines D.C. a Django Django.
Meddai Dan Snaith, sef Caribou: “Mae ‘na rywbeth hudolus am Green Man – ’dw i wedi ei deimlo yn y gorffennol, a chlywed hyn gan ffrindiau sy’n mynd bob blwyddyn. Rwy’n teimlo’n hynod o ffodus ein bod ni am fod yno fel un o’r prif artistiaid eleni.
Llun: jamssy