Adnewyddu apêl i adnabod corff a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi adnewyddu apêl i adnabod corff a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys ar 18 Hydref.
Dywedodd y llu y gallai'r corff fod wedi bod yno am "hyd at 12 wythnos."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting bod y corff yn ddyn oedd rhwng 30 a 60 oed.
"Mae'r dyn y chwe throedfedd o uchder ac yn gwisgo siŵt gwlyb Zone 3 Agile," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn bosibl bod y dyn wedi marw am gyfnod rhwng tair a 12 wythnos cyn cael ei ddarganfod.
Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i Gronfa Ddŵr Claerwen ychydig cyn 08:30 ar ddydd Gwener 18 Hydref ar ôl i aelod o'r cyhoedd eu ffonio i ddweud eu bod nhw wedi gweld corff yn y dŵr.
Mae'r llu yn chwilio am unrhyw un sydd wedi ymweld â'r gronfa ddŵr neu yn yr ardal gyfagos ar ddechrau mis Gorffennaf.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting eu bod nhw eisiau siarad gyda phobl am unrhyw eiddo personol oedd yn yr ardal, gan gynnwys bagiau, dillad, esgidiau, neu unrhyw beth arall.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r llu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 64 o 18 Hydref.