Dynes o Borthmadog yn 'falch' o fod yn rhan o ymgyrch i helpu pobol anabl
Mae dynes o Borthmadog sy'n byw gydag epilepsi yn "falch" o fod yn rhan o ymgyrch i helpu pobol anabl yng Nghymru.
Mae Kamar El-Hozeil, 23 oed, wedi'i phenodi'n llysgennad mynediad gan y fenter cymunedol Piws, er mwyn rhoi prawf ymarferol ar leoliadau gwyliau.
Bwriad y cynllun newydd yw sicrhau bod lleoliadau gwyliau yn cyrraedd y safon wrth wneud pethau'n haws i bobl ag anableddau.
Mae Kamar, sydd hefyd â Scoliosis neu crymedd yr asgwrn cefn, yn dueddol o gael trawiadau difrifol oherwydd ei hepilepsi.
Mewn un trawiad syrthiodd yn anymwybodol a stopio anadlu am fwy na munud cyn i feddygon ei hadfywio.
Yn sgil hynny dywedodd ei bod yn "falch" o gael y cyfle i hyrwyddo achos sy'n agos at ei chalon.
'Gwneud amgylcheddau yn fwy cynhwysol'
Fel rhan o'r cynllun, mae pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn derbyn cyflog i adolygu lleoliadau gwyliau a lletygarwch ledled Cymru.
Y nod yw rhoi adborth ar eu profiadau fel bod modd cefnogi atyniadau a lleoliadau eraill i ddeall heriau teuluoedd – gan gynnwys y rhai ag anableddau cudd – fel y gallant wneud addasiadau rhesymol i ddod yn fwy cynhwysol.
Her gyntaf Kamar oedd treulio pedwar diwrnod ym mharc gwyliau Hafan y Môr, ger Pwllheli, i asesu pa mor dda oedd hygyrchedd y safle.
Bydd ei hadroddiad yn cynnwys pwyntiau am ei hymweliad ynghyd a nodi mannau yr oedd hi'n ystyried bod angen gwelliannau.
"Fe gefais i amser gwych, a dweud y gwir," meddai.
"Roeddwn i'n gallu asesu ymarferoldeb holl gyfleusterau presennol y parc ar gyfer defnyddwyr anabl, gan ganmol yr hyn oedd yn dda a thynnu sylw at feysydd a allai fod yn well.
"Ar y cyfan, daeth y parc allan yn dda yn fy marn i. Rwyf wedi cael un o'r gwyliau gorau erioed. Rwy'n bendant yn gobeithio mynd yn ôl eto."
Mae cynllun Llysgenhadon Mynediad yn rhan o fenter gymdeithasol Piws, a gafodd ei sefydlu gan yr arbenigwr marchnata Davina Carey-Evans.
Fe dreuliodd y fam i dri o Ynys Môn flynyddoedd yn chwilio am atyniadau hamdden addas i ymweld â nhw gyda'i mab, Benjamin, sydd ag awtistiaeth ddifrifol.
"Fe wnaethon ni sefydlu Piws fel cwmni budd cymunedol nid er elw, dan arweiniad rhieni, ac mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Loteri Gymunedol y Loteri Genedlaethol," meddai.
"Fe wnaethon ni ddechrau drwy drefnu digwyddiadau diogel ar gyfer teuluoedd plant ag awtistiaeth.
"Dros amser, mae ein hymdrechion wedi ehangu i fynd i'r afael ag ystod ehangach o anableddau, ac rydym wedi meithrin partneriaethau gyda'r sectorau twristiaeth a lletygarwch i wneud amgylcheddau yn fwy cynhwysol."