Eistedfod Unnos: Cloi wyth bardd mewn castell dros nos

06/12/2025
Castell Aberteifi

Fe gafodd wyth o feirdd gan gynnwys Eirug Salisbury a Gruffudd Antur eu cloi yng Nghastell Aberteifi dros nos mewn cystadleuaeth barddoni.

Roedd Eisteddfod Unnos yn ddigwyddiad i ddathlu'r Eisteddfod gyntaf a gafodd ei chynnal yn y castell gan yr Arglwydd Rhys yn 1176.

Nos Wener roedd wyth o feirdd - Non Lewis, Steffan Phillips, Nanw Maelor, Gruffudd Antur, Manon Wynn Davies, Emyr Davies, Jo Heyde, Eurig Salisbury - wedi cael eu cloi mewn ystafelloedd ar wahân.

Eu tasg oedd cwblhau o leiaf dwy dasg ysgrifennu, a dim mwy na phump.

Mae'r digwyddiad yn cael ei chynnal flwyddyn cyn i'r Eisteddfod ymweld â'r ardal yn 2026.

Dywedodd un o drefnwyr y digwyddiad, Meirion Davies ei fod yn ddigwyddiad i "ddathlu'r" grefft.

“Mae’n gyfle i ddathlu barddoniaeth a beirdd a dweud y gwir," meddai wrth raglen Prynhawn Da.

“850 mlynedd yn ôl i flwyddyn nesa' fyddwn ni’n dathlu camp yr Arglwydd Rhys wnaeth adeiladu’r castell carreg cynta' gan Gymro, yn Aberteifi.

“Dylai fe wedi bod yn lot o hwyl a fi jyst yn gobeithio bod yr awen wedi galw heibio."

Y prifardd Tudur Dylan fydd yn beirniadu'r gystadleuaeth ac fe fydd Rhiannon O'Connor yn perfformio yn y seremoni cadeirio.

Bydd yr enillydd yn cael ei gadeirio am 15:00 ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.