'Rwy'n marw': Athrawes yn disgrifio ymosodiad honedig gan ddisgybl gyda chyllell

Ysgol Aberdaugleddau

Mae athrawes mewn ysgol yn Sir Benfro a gafodd ei thrywanu yn ei phen gan ddisgybl wedi dweud yn ei thystiolaeth llys ei bod yn credu ei bod am farw.

Mae’r disgybl, nad oes modd ei enwi o achos ei oedran, yn gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio Vicki Williams yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ym mis Chwefror.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, clywodd y rheithgor dystiolaeth gan Mrs Williams, a ddywedodd ei bod wedi ceisio cymorth meddygol ar unwaith wedi’r digwyddiad am ei bod yn meddwl ei bod am farw.

Ddydd Llun, dywedodd Christopher Rees ar ran yr erlyniad fod y bachgen wedi cynnal “ymosodiad parhaus” ar yr athrawes.

Clywodd y rheithgor fod y disgybl wedi tynnu cyllell gegin fawr o’i fag, gan ei tharo yn ei phen.

Clywodd y llys fod hynny wedi arwain at “frwydr dreisgar”, lle’r oedd Ms Williams yn “sgrechian nerth ei phen”, cyn llwyddo yn y pen draw i gymryd y gyllell oddi arno.

'Mae angen help arna i'

Ddydd Mawrth, fe awgrymodd Matthew Roberts KC ar ran yr amddiffyniad bod ei hanafiadau wedi eu hachosi yn ystod ffrwgwd i geisio meddiannu’r gyllell.

Dywedodd bod y bachgen wedi cerdded tuag at ddesg yr athrawes gyda’i fag, gan ofyn cwestiynau am ei waith cartref.

Dywedodd: “Yna, fe wnaethoch chi ofyn y cwestiwn: “Beth sydd yn dy fag?”

Atebodd Mrs Williams: “Na, nid dyna ddigwyddodd.”

Ar ôl iddi hi weld y gyllell yn ei fag, dywedodd Mr Roberts bod y diffynnydd wedi gwrthod a'i rhoi iddi.

“Na, nid dyna ddigwyddodd,” meddai’i athrawes.

Dywedodd Mr Roberts bod y ffrwgwd wedi dechrau wedi hynny, wrth i’r athrawes geisio gael gafael ar y gyllell, a dyna sut y cafodd ei hanafu.

“Dim o gwbl,” atebodd Mrs Williams.

Gofynnodd Mr Roberts pam na wnaeth yr athrawes gloi ei hun yn yr ystafell wedi i’r bachgen adael.

“Oherwydd fy mod yn gwybod fy mod wedi cael fy nhrywanu yn fy mhen, a dwi’n ofni y byddaf yn marw.

“Yr holl ydw i’n meddwl amdano yw, mae angen help arna i.

“Ro’n i mewn sioc....y peth cyntaf feddyliais i oedd, “rwy’n marw.”

Awgrymodd Mr Roberts bod Mrs Williams wedi’i dychryn wrth weld y gyllell a bod ei disgrifiad a’i chof o’r hyn ddigwyddodd yn wallus.

“Dim o gwbl,” meddai Mrs Williams.

“Maen rhywbeth dwi’n ei fyw pob dydd.”

Mae’r bachgen yn gwadu ceisio llofruddio.

Mae wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Mae’r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.