Llywodraeth y DU 'ddim yn cymryd Rhun ap Iorwerth o ddifrif' medd Reform

Rhun ap Iorwerth a Dan Thomas

Mae arweinydd Reform yng Nghymru wedi dweud ei bod bellach yn amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn cymryd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, o ddifrif.

Dywedodd Dan Thomas yn siambr Senedd Cymru ddydd Mawrth fod Rhun ap Iorwerth wedi methu â sicrhau cyfarfod gyda Syr Keir Starmer ac nad oedd ganddo gyfarfod wedi’i drefnu gyda’i olynydd tebygol, Andy Burnham.

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth ymateb mai “anhrefn yn San Steffan” oedd yn gyfrifol am beidio â chwrdd â Keir Starmer ac nad oedd Andy Burnham yn Brif Weinidog eto.

Ond dywedodd Dan Thomas fod Rhun ap Iorwerth wedi cael ei anwybyddu gan Lywodraeth y DU.

“Fe wnaethoch chi addo i bobl Cymru y byddech chi'n sefyll dros Gymru ac y byddech chi'n cael gwell bargen gan Lundain,” meddai.

“Ond dydych chi ddim wedi cyfarfod ag unrhyw un o'r llywodraeth, hyd y gallwn ni weld.

“Mae'n amlwg nad yw llywodraeth y DU yn eich cymryd chi o ddifrif."

Ychwanegodd: “Dydyn nhw ddim, ac mae'r rheswm dros hynny'n eithaf amlwg, oherwydd nid yw mynnu arian ychwanegol yn unig, dydy hynny ddim yn mynd i agor drysau yn Llundain.

“Rydw i’n gwybod, fel cyn-arweinydd cyngor a lwyddodd i sicrhau cannoedd o filiynau o bunnoedd ar gyfer seilwaith, fod yn rhaid i chi argyhoeddi'r llywodraeth y byddwch chi'n gwario'r arian yn ddoeth.”

Ychwanegodd eu bod nhw “hanner ffordd drwy 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru, a'r cyfan a welwn yw adolygiadau, grwpiau arbenigol, archwiliadau, cynlluniau ar gyfer cynlluniau, datblygiadau strategol yn hytrach na gweithredu go iawn”.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth eu bod ond yn “megis dechrau fel llywodraeth”.

“Rwy'n hoffi rhoi atebion sylweddol yma, ond mae angen i mi nodi nad Andy Burnham yw Prif Weinidog y DU.

“Roedd y sgwrs gynnar iawn a gefais gyda Keir Starmer heb arwain at gyfarfod oherwydd anhrefn yn San Steffan. 

“Rwy'n mawr obeithio y bydd cyfarfod cynnar iawn gydag Andy Burnham. 

“Os daw'n Brif Weinidog y DU, fel yr ydym yn ei ddisgwyl, oherwydd mae gen i lawer i siarad ag ef amdano.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.