‘Blynyddoedd tyngedfennol': Anelu at addysg Gymraeg i hanner plant Cymru erbyn 2050
Bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod hanner plant Cymru yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050 meddai’r gweinidog iaith, wrth iddi ddweud bod y blynyddoedd nesaf yn “dyngedfennol”.
Bu Anna Brychan AS yn amlinellu gweledigaeth ei llywodraeth ar gyfer hybu’r iaith yn y Senedd ddydd Mawrth.
Roedd y gwaith eisoes wedi dechrau yn ystod 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth newydd i gryfhau’r Gymraeg mewn ardaloedd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg, meddai.
“Bydd cyrraedd miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu’r defnydd ar lawr gwlad ddim yn mynd i fod yn hawdd,” meddai.
Ychwanegodd: “Mae’r ewyllys da a’r uchelgais yn rhoi sylfaen gadarn inni, ond mae’r heriau’n real, a bydd y blynyddoedd nesaf yn dyngedfennol.
“Ein ffocws nawr yw troi’r uchelgais yn weithredu a sicrhau’r dyfodol cryfaf posibl i’r Gymraeg yn ein hysgolion, ein cymunedau a’n gweithleoedd."
Roedd y gwaith eisoes wedi dechrau er mwyn cydweithio ag awdurdodau lleol i bennu sut y dylid dynodi cymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg er mwyn helpu i gryfhau’r defnydd o’r iaith yn y cymunedau hynny, meddai.
Ar yr un pryd, mae camau brys yn cael eu cymryd drwy ddefnyddio pwerau presennol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio’r holl fesurau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol sydd eu hangen i gefnogi eu cynaliadwyedd hirdymor, ychwanegodd.
‘Arf gwleidyddol’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Reform dros y Gymraeg, Helen Jenner, nad oedd “modd gorfodi cariad at iaith”.
“Lle mae’r llywodraeth yn mynd o’i le yw pan mae hi’n awgrymu mai deddfwriaeth, targedau a strategaethau yn unig fydd yn sicrhau dyfodol yr iaith,” meddai.
“Ni allwn orfodi pobl i garu iaith - ni allwn ddeddfu brwdfrydedd. Ni allwn greu cymunedau Cymraeg drwy dargedau yn unig.
“Bydd y Gymraeg yn ffynnu pan fydd pobl yn dewis ei defnyddio yn y cartref, yn y gweithle, yn y dafarn, yn y clwb rygbi, ac ar y stryd.
“Mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw’r Gymraeg byth yn cael ei defnyddio fel arf gwleidyddol. Mae’r iaith yn perthyn i bawb.
“Rhaid i ni sicrhau nad yw cryfhau’r iaith yn troi’n ymarfer o dynnu llinellau rhwng cymunedau. Mae pob cymuned yn haeddu’r un gefnogaeth i’w defnyddio a’i datblygu.”
'Adeiladol'
Wrth siarad cyn y datganiad, dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod “angen pennod newydd radical” ar gyfer y Gymraeg.
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Owain Meirion, fod angen i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru “gymryd hawl pobl Cymru i’r Gymraeg o ddifrif”.
“Roedd llywodraethau blaenorol yn ddigon parod â geiriau cynnes, ond yn llai parod i weithredu’r camau angenrheidiol i atal y dirywiad yn sefyllfa’r Gymraeg dros y degawdau diwethaf a sicrhau dyfodol cadarnhaol i’r iaith, tra’n gweithio yn y cefndir gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wanhau gorfodi ein hawliau,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r gweinidog newydd gyflwyno pennod newydd radical a fydd yn cymryd hawl pobl Cymru i’r Gymraeg o ddifrif ac yn cyflawni targedau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd i bobl yn eu cymunedau.
“Edrychwn ymlaen i gydweithio’n adeiladol gyda’r gweinidog newydd i sicrhau mai’r Llywodraeth hon a fydd yn troi’r llanw dros y Gymraeg – yn cyflwyno addysg Gymraeg i bawb a’r gweithlu i’w darparu, yn cwblhau’r gwaith o gyflwyno hawliau o dan Fesur y Gymraeg a’u hymestyn ar fyrder i weddill y sector preifat a’u gorfodi’n effeithiol.”
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan gynnwys dynodi ardaloedd lle mae dwysedd siaradwyr Cymraeg yn uwch na 40%, yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021, gyda’r posibilrwydd o gynnwys cymunedau cyfagos.
Ddydd Sadwrn diwethaf, fe gafodd rali ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith ym Mhorthmadog yn galw ar Lywodraeth Cymru i “droi’r llanw ar y Gymraeg”.
Roedd tua 200 o bobl yn bresennol ar gae Clwb Pêl-droed Porthmadog, lle cafodd y rali ei chynnal.
Mewn ymateb i’r rali, anfonodd Anna Brychan lythyr o gefnogaeth at Gymdeithas yr Iaith.
“Dyw’r Gymraeg erioed wedi datblygu drwy ewyllys da yn unig,” meddai.
“Mae wedi symud ymlaen oherwydd bod pobl wedi mynnu newid, wedi dal sefydliadau i gyfrif, ac wedi gwrthod derbyn y sefyllfa bresennol.
“Dyna pam mae gwaith Cymdeithas yr Iaith mor bwysig.
“Mae’r gwaith wedi dechrau’n barod.”