'Gobeithio ddim': Cyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Llundain yn dweud wrth Dywysog Cymru nad yw eisiau i Loegr ennill Cwpan y Byd
'Gobeithio ddim': Cyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Llundain yn dweud wrth Dywysog Cymru nad yw eisiau i Loegr ennill Cwpan y Byd
Wrth ymweld ag Ysgol Gymraeg Llundain ddydd Mawrth dywedodd un o gyn-ddisgyblion yr ysgol wrth Dywysog Cymru ei fod yn "gobeithio" na fydd Lloegr yn ennill Cwpan y Byd.
Roedd y Tywysog William yn ymweld â'r ysgol yn Hanwell yng ngorllewin Llundain i gyfarfod rhai o athletwyr Cymru fydd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.
Fe gymerodd ran mewn gweithgareddau gyda disgyblion presennol yr ysgol a rhai cyn-ddisgyblion hefyd.
Wrth siarad â rhai o'r cyn-ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth fe ofynnodd Tywysog Cymru os oedden nhw'n meddwl bod Lloegr yn mynd i wneud yn dda yng Nghwpan y Byd.
Atebodd Daniel, cyn-ddisgybl yr ysgol: "Gobeithio ddim!"
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod wedi nodi wrth y Tywysog ei fod yn cefnogi pwy bynnag sy'n erbyn Lloegr
"O'n ni'n siarad ambwyti a pwy dwi'n cefnogi oherwydd bod Cymru ddim mewn Cwpan y Byd.
"A o'n i'n dweud, dwi'n cefnogi pwy sy'n yn erbyn Lloegr."
Bydd Lloegr yn wynebu Norwy yn rownd yr wyth olaf y gystadleuaeth nos Sadwrn.
Fe ddywedodd Tywysog Cymru wrth y disgyblion hefyd ei fod yn "cefnogi Lloegr ym mhêl-droed a Chymru yn rygbi."
Bydd Gemau'r Gymanwlad eleni yn cael ei chynnal rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst, gydag athletwyr yn cystadlu mewn 10 camp wahanol.
Fe fydd 144 o athletwyr yn cynrychioli Cymru, ac yn eu plith mae 14 aelod a enillodd fedal yng Ngemau’r Gymanwlad ddiwethaf yn Birmingham yn 2022, gan gynnwys pump aelod a enillodd fedal aur.
Un sydd yn gobeithio ennill ei medal gyntaf yn y gystadleuaeth eleni yw Catrin Haf Jones o Fangor a fydd yn cystadlu yn y gamp codi pwysau.
Dywedodd wrth Newyddion S4C bod y gemau yn gyfle i "roi Cymru ar y map."
"Mae o'n fraint yn cynrychioli, Cymru yn y Gemau Gymanwlad," meddai.
"Yn y gorffennol dw i 'di neud dau Gemau Gymanwlad a mae hwn yn trydydd gemau.
"Dwi wir yn edrych ymlaen iddo, a dwi'n gobeithio eleni fyddai yn cystadlu am fedal tua'r diwedd.
"Felly dwi'n credu mai eleni fydd y gystadleuaeth mwyaf dwi wedi gwneud hyd yn hyn
"Dwi'n credu ei fod yn dda i roi Cymru ar y map a bod gynnon ni lawer o unigolion sydd yn cynrychioli eu gwlad ac yn dangos bod llawer o dalent yng Nghymru."
'Ysbrydoli'
Ers 1958 mae Ysgol Gymraeg Llundain wedi bod yn darparu addysg Gymraeg i blant ym mhrifddinas Lloegr.
Emilia Davies yw Athrawes Arweiniol yr ysgol, ac mae'n gobeithio y bydd ymweliad y Tywysog ddydd Mawrth yn gallu helpu cynyddu niferoedd y disgyblion.
"Ni 'di bod yn neud llawer o waith yn diweddar i trio cael mwy o bobl yn ymwybodol o'r ysgol a trio cael y gair bod ni yma." meddai.
"Felly mae'n hollol bwysig i, fel i ddyfodol yr ysgol bod y Tywysog wedi dod.
"I gweld y Tywysog yn siarad bach o Gymraeg gyda nhw hefyd i gweld rhywun sydd yn Llundain, ond rhywun sydd falle maen nhw'n gweld ar y teledu, mae hwnna'n rili dda iddyn nhw hefyd."
