‘Angel yn Aldi’: Gweithred o garedigrwydd yn dod â chanmoliaeth i fam-gu o Ben-y-bont ar Ogwr
Mae menyw o Ben-y-bont ar Ogwr yn cael ei hadnabod fel ‘Angel Aldi’ gan rai trigolion lleol ar ôl iddi helpu mam ifanc i dalu ei bil siopa mewn archfarchnad.
Fis diwethaf, wrth gasglu ei neges yn siop Aldi ym Mhorthcawl, roedd mam ar gyfnod mamolaeth yn cael trafferth talu am ei bwyd ar ôl i’w cherdyn gael ei wrthod.
Roedd y fam, o'r enw Holly, wedi gofyn i staff roi rhai eitemau yn ôl — cyn i Claire Welsh, oedd yn ciwio y tu ôl iddi, gamu ymlaen.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ms Welsh, sydd yn fam i bedwar ac yn fam-gu: “Roeddwn i’n sefyll tu ôl i fenyw ifanc gyda’i babi.
“Gwelais ei bod yn gofyn i staff roi eitemau yn ôl, ac fe ddywedais wrthi: ‘peidiwch â phoeni, paid â gwneud hynny’. Wedyn mi wnes i gynnig talu’r balans oedd ar ôl.”
Roedd y fam tua £7 yn brin, ond rhoddodd Claire £20 i sicrhau bod popeth wedi’i dalu’n llawn.
Wrth iddynt siarad, eglurodd Holly ei bod yn wynebu anawsterau ariannol yn ystod ei chyfnod mamolaeth.
'Byddwn i'n gwneud eto'
Yn ddiweddarach, rhannodd Holly neges ar Facebook yn diolch i Claire: “Rydw i ar gyfnod mamolaeth felly mae arian yn brin beth bynnag, ond wnaeth fy nhaliad ddim mynd drwodd.
“Daeth yr angel ar y ddaear, Claire, o’r ciw y tu ôl i mi a thalu gweddill fy siopa.
“Nid yn unig y gwnaethoch chi dalu am fy mwyd — rydych chi wedi gwneud fi’n hapus, fy nghathod yn hapus a fy mabi yn hapus. Tŷ cynnes, llawn bwyd, oherwydd chi.”
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio gallu ad-dalu’r ffafr ryw ddydd.
Dywedodd Ms Welsh, sydd yn dweud ei bod wedi profi "cyfnodau anodd" yn y gorffennol, ei bod yn cydymdeimlo â sefyllfa Holly.
“Blynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n defnyddio banciau bwyd — dwi’n fam i bedwar.
“Mae amseroedd yn gallu mynd yn anodd. Hyd yn oed taw hwnna oedd fy £5 olaf, os oedd rhywun wir ei angen e, byddwn i’n gwneud yr un peth.”
Mae’r stori bellach wedi ei rannu ar draws cyfryngau cymdeithasol, gyda nifer yn canmol caredigrwydd Claire.
“Os byddai un o fy mhlant i’n stryglo mewn ciw ryw ddiwrnod,” meddai Claire, “byddwn i’n gobeithio fod rhywun yn camu ymlaen i’w helpu hefyd.
"Byddwn i’n gwneud hyn eto mewn curiad calon.”
