'Grŵp da iawn': Golwg ar wrthwynebwyr posib Cymru yng Nghwpan y Byd 2026

'Grŵp da iawn': Golwg ar wrthwynebwyr posib Cymru yng Nghwpan y Byd 2026

"Grŵp da iawn, dwi'n meddwl mae'n un fydd Cymru yn gallu gwneud yn dda ynddo".

Dyna sut mae cyn ymosodwr Cymru Robert Earnshaw yn disgrifio grŵp posib Cymru yng Nghwpan y Byd 2026.

Fe fydd tîm Craig Bellamy yn wynebu Canada, Qatar a'r Swistir yn eu grŵp os ydyn nhw'n llwyddo i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.

Bydd angen iddyn nhw guro Bosnia a Herzagovina a'r Eidal neu Ogledd Iwerddon cyn gallu meddwl hawlio eu lle yng Nghwpan y Byd.

Pe bai Cymru yn cyrraedd y gystadleuaeth, bydd eu gemau yn cael eu chwarae yn Toronto, Los Angeles a Seattle.

Felly wrth i gefnogwyr Cymru freuddwydio am daith i Ogledd America, pwy yn union ydy gwrthwynebwyr posib Cymru?

Atgofion Euro 2020

Y Swistir bydd ffefrynnau i ennill y grŵp, er eu bod nhw ym Mhot 2.

Maen nhw fel arfer yn cyrraedd ail rownd prif gystadlaethau, gan gynnwys rownd yr wyth olaf yn Euro 2024.

Mae ganddyn nhw chwaraewyr o safon sydd yn chwarae yn rhai o gynghreiriau gorau Ewrop, gan gynnwys Granit Xhaka sydd yn chwarae i Sunderland, cyn amddiffynnwr Manchester City, Manuel Akanki ac ymosodwr Rennes yn Ffrainc, Breel Embolo.

Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn erbyn Y Swistir oedd yn Ewro 2020.

Kieffer Moore sgoriodd unig gôl Cymru wrth iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal yn erbyn eu gwrthwynebwyr.

Fe aeth Cymru ymlaen i ennill yn erbyn Türkiye a cholli yn erbyn yr Eidal, cyn colli 4-0 yn erbyn Denmarc yn rownd yr 16 olaf.

Dim ond dwywaith mae Cymru wedi curo'r Swistir, y tro diwethaf oedd yn 2021. 

Image
Chwaraewyr Cymru yn dathlu wedi peniad Kieffer Moore yn erbyn Y Swistir. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)
Chwaraewyr Cymru yn dathlu wedi peniad Kieffer Moore yn erbyn Y Swistir. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

'Gobeithio gweld chi yng Nghwpan y Byd'

Canada yw prif ddetholion y grŵp, ond mae hynny gan eu bod nhw'n un o'r tair gwlad sydd yn cynnal Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

Roedd Cymru a Chanada wedi cwrdd yn Abertawe yn gynharach eleni, gyda'r ymwelwyr yn ennill 1-0 yn erbyn tîm ifanc Cymru.

Ar ôl y gêm roedd Craig Bellamy ddim yn hapus gyda'r ffordd roedd Canada yn dathlu.

"Dwi'n gweld nhw'n dathlu ar y diwedd, a dwi'n meddwl 'dwi'n gobeithio gweld chi yng Nghwpan y Byd. Dwi'n gobeithio gweld chi eto'," meddai.

Pe bai Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, dyma fydd y tro cyntaf i'r ddau dîm chwarae yn erbyn ei gilydd mewn gêm gystadleuol.

Gemau cyfeillgar yn unig sydd wedi eu chwarae rhwng y ddwy wlad hyd yma, gyda Chymru'n ennill dwy a Chanada'n ennill dwy.

Mae Canada yn rhif 26 ar restr detholion y byd, yr uchaf mae'r wlad erioed wedi cyrraedd.

Eu capten ac amddiffynnwr Bayern Munich, Alphonso Davies yw un o brif chwaraewyr Canada, ond ar hyn o bryd mae'n dal i ddioddef anaf hirdymor i'w ben-glin.

Ymosodwr Juventus, Jonathan David yw'r bygythiad mawr yn yr ymosod.

Image
Nid oedd Bellamy yn hapus gyda dathliadau Canada ym mis Medi. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)
Nid oedd Bellamy yn hapus gyda dathliadau Canada ym mis Medi. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Ansicrwydd Qatar

Bydd gan aelodau'r Wal Goch atgofion o Qatar wedi i filoedd heidio draw i'r wlad yn 2022 pan gymhwysodd Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Ar y cae mae'r gwledydd ond wedi cwrdd unwaith, a hynny yn 2000 yn ystod gêm gyntaf Mark Hughes fel rheolwr.

Dyma Gwpan y Byd cyntaf i Qatar gymhwyso amdano heb fod y wlad sydd yn cynnal y gystadleuaeth.

Maen nhw'n rhif 51 ar restr detholion y byd, ac wedi ennill Cwpan Asia yn 2023.

Mae eu carfan i gyd yn chwarae i glybiau yn Qatar, ac felly mae elfen o ansicrwydd a dyfalu am eu chwaraewyr.

Ond mae ganddyn nhw wyneb cyfarwydd yn rheolwr, sef Julen Lopetegui.

Mae Lopetegui wedi bod yn rheolwr ar Sbaen, Real Madrid, Sevilla, Wolves a West Ham.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.