Ffermwyr yn galw am dro pedol ar newidiadau i'r dreth etifeddu ar ffermydd
Gwrthdroi cynlluniau i godi treth etifeddu ar ffermydd yw’r "unig ffordd synhwyrol o weithredu", yn ôl pennaeth Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.
Mae disgwyl i Tom Bradshaw gwrdd â Steve Reed, Ysgrifennydd yr Amgylchedd ddydd Llun i drafod cynlluniau'r Canghellor Rachel Reeves i gyflwyno newidiadau i'r dreth etifeddu ffermydd.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn.
Ond wrth ysgrifennu yn y Daily Telegraph, dywedodd Mr Bradshaw mai'r dyma'r "hoelen olaf yn yr arch" i nifer o ffermwyr.
"Dyw mwyafrif helaeth y bobl a fydd yn ysgwyddo baich y penderfyniad hwn ddim yn bobl gyfoethog gyda chronfeydd arian cudd," meddai.
"Maen nhw'n deuluoedd sydd yn aml wedi treulio cenedlaethau yn adeiladu eu busnesau fferm i ddarparu bwyd i'r genedl, yn aml o fewn ffiniau elw tynn iawn.
"Mae eu busnesau wedi brwydro trwy’r holl newidiadau a achoswyd gan Brexit. Maen nhw wedi dioddef blynyddoedd o gael eu gwasgu i’r ymylon, gyda chostau cynhyrchu yn codi i’r entrychion. Maen nhw wedi cael eu curo gan dywydd cynyddol eithafol. Does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i’w roi.”
'Angen gwrthdroi'r penderfyniad'
Mae arbenigwyr treth wedi awgrymu y gallai’r newidiadau effeithio ar lai na 500 o ffermydd y flwyddyn.
Ond dywedodd Mr Bradshaw fod gan y Trysorlys "farn hollol sgiw o strwythur ffermio yng ngwledydd Prydain".
"Ychydig iawn o ffermydd hyfyw sydd werth llai na £1 miliwn. Gallai hynny brynu 50 erw a thŷ i chi heddiw. Nid oes unrhyw fusnes cynhyrchu bwyd hyfyw yn 50 erw. Mae fferm gyffredin y DU yn fwy na 250 erw," meddai.
"Yr unig ffordd synhwyrol o weithredu ar gyfer dyfodol ffermydd teuluol ledled y wlad, yn ogystal ag er mwyn diogelwch bwyd Prydain a’n targedau amgylcheddol deddfwriaethol, yw gwrthdroi’r penderfyniad hwn."
Mae'r Canghellor wedi amddiffyn ei phenderfyniad i gyflwyno newidiadau i'r dreth wrth etifeddu fferm.
Wrth siarad ar raglen BBC’s Sunday with Laura Kuenssberg dywedodd Ms Reeves y bydd hyn yn effeithio ar "ychydig iawn o ffermydd yn unig".
Ond dywedodd nad yw’n "fforddiadwy" i beidio â chyflwyno newidiadau o’r fath "pan fod ein cyllid cyhoeddus o dan gymaint o bwysau".
"Mi fydd hyn yn effeithio ar nifer fechan iawn o eiddo amaethyddol," meddai.
"Ond y llynedd roedd y manteision ynghlwm â chymorth eiddo amaethyddol yn golygu bod 40% o’r budd yn mynd i 7% o’r perchnogion tir mwyaf cyfoethog."
Prif lun: Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr