Newyddion S4C

Merch 10 oed wedi marw ar ôl cael ei brathu gan gi'r teulu

02/11/2024
Heddlu

Cyhoeddodd yr heddlu fod merch 10 oed wedi marw ar ôl i gi'r teulu ymosod arni. 

Cafodd Heddlu Sir Gogledd Efrog eu galw i gartef yn ardal Malton brynhawn Gwener.

Yn ôl yr heddlu, fe gafodd y ferch anafiadau difrifol a bu farw yno. 

Llwyddodd aelod o'r teulu i roi'r ci mewn car, cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd, medd yr heddlu. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.