Newyddion S4C

‘Flytipio a throseddau gwastraff yn digwydd yn llawer rhy aml’, medd swyddog CNC

Y Byd ar Bedwar
YBAB

Mae swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio am ddifrifoldeb tipio yn anghyfreithlon a throseddau gwastraff eraill. 

Fe wnaeth glanhau neu glirio tipio anghyfreithlon yng Nghymru gostio £1.8 miliwn i gynghorau lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda bron i 40,000 o achosion yn cael eu hadrodd llynedd. 

Dywedodd Heledd Wynne-Evans, Swyddog Taclo Tipio Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): “Mae tipio gwastraff yn anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol.

“Mae’n drosedd gwbl ddiangen ond yn anffodus mae’n digwydd yn llawer rhy aml.” 

Image
Mae Heledd Wynne-Evans  yn gweithio ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru fel Swyddog Taclo Tipio.
Mae Heledd Wynne-Evans yn gweithio ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru fel Swyddog Taclo Tipio

Mewn pennod o raglen Y Byd ar Bedwar, mae’r tîm yn dilyn Heledd wedi iddi gael galwad am achos o dipio gwastraff yn anghyfreithlon yng ngogledd Cymru. 

Mae Heledd yn darganfod 10 o fagiau llawn gwastraff mewn coedwig. 

“Mae’r bagiau yma llawn gwastraff tŷ a bwyd, gwastraff mae bosib eu hailgylchu,” meddai Heledd. 

“Mae o jyst yn gwbl ddiangen ac yn ddiog. Bysa rhan fwyaf o’r stwff yma yn gallu cael eu casglu gan y cyngor yn wythnosol neu fynd â nhw i ganolfan ailgylchu."

Mae Heledd yn mynd drwy’r bagiau er mwyn chwilio am unrhyw dystiolaeth all arwain at ddod o hyd i’r troseddwr neu droseddwyr. Ac y tro hwn, mae Heledd yn darganfod tystiolaeth yn y bag cyntaf. 

“Yn syth rŵan, dwi’n gweld llythyr, a ma’ ‘na enw ar hwnna.” 

Y gosb uchaf am dipio anghyfreithlon yw dirwy o £50,000 a hyd at 12 mis o garchar, ond hyd at £400 yw’r gosb i rywun sy’n tipio ar raddfa fach yng Nghymru.

“I fi dydy’r cosbau ddim yn ddigon oherwydd dwi’n gorfod mynd drwyddo fo, ond maen nhw yn cael eu cosbi yn eitha’ da, ond bysa fo lot rhatach mynd â fo i rywle cyfreithlon," meddai Heledd. 

‘Niweidiol’

Yn ôl Dr Gary Warpole, arbenigwr mewn gwastraff mae tipio gwastraff yn anghyfreithlon yn niweidiol dros ben.

“Yn gyntaf ma’ popeth yn pydru, os ydy’r gwastraff yn pydru i’r ddaear mae’n pydru’r ddaear. 

“Mae plastig yn mynd mewn i’r ddaear, mae anifeiliaid yn bwyta fe gan achosi niwed neu farwolaeth. 

"Da ni di colli 70% o biodiversity ni yn y 10 mlynedd diwethaf felly mae’n niweidiol dros ben.”

Image
YBAB

Cyfrifoldeb ar bawb 

Mae’n gyfrifoldeb ar y rhai sy’n cael gwared â gwastraff i sicrhau ei fod yn cael ei waredu yn gyfrifol ac yn gyfreithlon. 

Er mwyn glynu at y gyfraith, mae'n rhaid i unrhyw un sy’n cael ei dalu i gasglu a chludo gwastraff fod â thrwydded gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. 

Mae ymchwiliad gan Y Byd Ar Bedwar wedi dod ar draws unigolyn oedd wedi gorfod talu bron i £7,000 mewn costau cyfreithiol yn 2020 am redeg safle gwastraff anghyfreithlon. Mae’n parhau i hysbysebu ei wasanaeth cludo gwastraff yn rheolaidd ar Facebook.

Fe wnaeth Y Byd ar Bedwar drefnu bod yr unigolyn yn casglu gwastraff er mwyn gweld ble fyddai'r gwastraff yn cyrraedd. 

Ar ôl i’r unigolyn gasglu’r sbwriel fe wnaeth e anfon tystiolaeth ei fod wedi gwaredu’r gwastraff mewn canolfan drwyddedig ond nid yw rhif ei drwydded cludo yn ymddangos ar gofrestr cludwr gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Y Byd ar Bedwar gysylltu â’r unigolyn i holi a oedd ganddo drwydded gyfredol. Dywedodd bod ganddo drwydded a’i fod wedi gwaredu’r gwastraff yn gyfreithlon. 

Ond ar ôl peth amser, fe wnaeth yr unigolyn gysylltu yn ôl a chyfaddef nad oedd ganddo drwydded, er iddo ddweud yn y sgwrs wreiddiol ei fod wedi ei hadnewyddu. 

Dywedodd ei fod yn bwriadu gwneud y cais ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru'r noson honno ac y byddai’n anfon llun i gadarnhau ei gais. Ond ‘dyw e heb wneud. 

Mae Heledd am i’r neges fod yn glir; mae hi’n gyfrifoldeb ar bawb i waredu eu gwastraff yn gyfreithlon. 

“Mae ‘na enghreifftiau o bobl yn talu i eraill nôl eu gwastraff, talu cash, peidio cael receipt ac mae’r gwastraff yna wedi cael eu gwagio mewn ardaloedd bendigedig, yn anffodus mae’r bobl yna hefyd yn cael dirwyon."

Gwyliwch ymchwiliad llawn Y Byd ar Bedwar ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.