Gwerthwr cyffuriau yn euog o lofruddio dyn 36 oed yng Nghasnewydd
Mae rheithgor wedi dod i ddyfarniad unfrydol fod dyn yn euog o lofruddio dyn 36 oed yng Nghasnewydd.
Plediodd David Sisman, 21, yn ddi-euog i lofruddiaeth Lee Crewe, 36, ar ddechrau ei achos llys.
Roedd Sisman yn werthwr cyffuriau yn y ddinas, ac wedi trywanu Mr Crewe yn ei frest gyda chyllell 'Rambo' cyn ei thaflu i afon gerllaw.
Cafodd swyddogion eu galw i Heol Cas-gwent yng Nghasnewydd ar 14 Mai ar ôl i Mr Crewe gael ei ddarganfod yn anymwybodol gydag anafiadau difrifol.
Fe gadarnhaodd gweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ddiweddarach ei fod wedi marw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Virginia Davies o Heddlu Gwent: "Rydym ni'n gwybod na fydd y ddedfryd yma yn dod â Lee yn ôl, ond rydym ni'n gobeithio y bydd y dyfarniad yn rhoi ychydig o gysur i'r teulu.
"Hoffwn roi teyrnged i'w deulu a'r dewrder anhygoel y maen nhw wedi ei ddangos drwy gydol y broses boenus yma."
Bydd Sisman yn cael ei ddedfrydu ar ddyddiad diweddarach.