Newyddion S4C

Rhai o drigolion ward fwyaf difreintiedig Gwynedd yn pryderu am yr heriau ariannol

01/11/2024

Rhai o drigolion ward fwyaf difreintiedig Gwynedd yn pryderu am yr heriau ariannol

Mae 'na rywbeth eithaf unigryw am ystâd Sgubor Goch. Neu Sgubs i'r rhai sy'n byw 'ma.

"Mae pawb yn neud efo'i gilydd.

"Os ydych chi isio rhywbeth, dach chi'n cnocio a gofyn menthyg siwgr."

Mae 'na gymuned yma felly?

"Oes, mae'n dda fan'ma. Mae pawb yn tynnu at ei gilydd."

Dyma i chi un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru.

Mae 85% yn siarad yr iaith ond mae bywyd yn bell o fod yn hawdd.

"Does 'na'm gwaith i blant ifanc. Sna'm byd i'r generation nesa.

"The rich get richer, the poor get poorer."

Fel miloedd drwy Gymru, mae Lee Talbot sydd yn ei eiriau fo yn born and bred yma, wedi rhoi gorau i'w waith i ofalu am ei fam.

"Mae'n anodd.

"Mae'n experience totally gwahanol i weithio, edrych ar ôl fy mam."

Ydy o'n galed?

"Yndy, mae o'n galed.

"Dw i'n cael ups and downs.

"Mae'n effeithio ar y mental health."

Fel Lee, am wahanol resymau, mae nifer yma allan o waith a'r gyfartaledd ddiweithdra yn uwch yma na'r lefel cenedlaethol.

I rai, mae gofal plant yn rhan o'r rheswm.

Mae dros 30% o'r boblogaeth yma dan 19 oed.

Alison Vaughan yn deud yn ddigon plaen, mae'n well peidio gweithio.

"Dw i 'di gweithio ers wyth mlynedd.

Wnes i stopio dair blynedd yn ôl.

"Ella bod o'n well peidio gweithio sy'n swnio'n awful.

"Ffordd dw i'n gweld o, ar y funud dw i'm yn gorfod talu rhent.

"Dw i'n talu council tax bob wythnos ond dw i'n well off peidio gweithio.

"'Sna'm help i gael i bobl sy'n gweithio."

Mae'n cydnabod bod o'n ddadleuol ond yn mynnu mai dyma'r ffordd o oroesi.

"Bills, maen nhw'n stacio fyny.

"Electric, gas, bwyd, wedyn cadw'r plant.

"Tripiau ysgol, dillad ac esgidiau newydd bob munud.

"Pa mor anodd ydy cuddio hynny rhag rhai ifanc?

"Mae'n anodd efo'r rhai hynna.

"Maen nhw'n gofyn am bethau mae ffrindiau nhw efo.

"Weithiau mae'n rhaid bod yn blunt a deud dydy'r pres ddim yna.

"Mae Dolig yn dod i fyny, sy'n boen.

"Dydy'r rhai lleia ddim yn rhy ddrwg ond y ddau hyna, mae'n struggle.

"Fedra i'm cuddio fo oddi wrth y rhai hyna."

Ond i rai sydd yn gweithio, dydy pres ddim yn mynd yn bell.

"Mae'r cyflog yn mynd fyny bach ond mae bob dim arall yn mynd fyny mwy.

"Mae cost of living compared i'r cyflog yn uncomparable."

Bois ailgylchu ydy Dion a Deio.

Ar y ffordd adre o'r gwaith ac fel pawb yn profi effaith prisiau'n codi.

"Dw i'n talu i fyw adra i Mam a Dad.

"Maen nhw'n cael pres gen i ond maen nhw'n dal yn stryglo.

"Mae bil bwyd nhw'n massive.

"Ar ddiwedd wythnos does 'na'm byd yna."

"Mae'n broblem, ond maen nhw angen newid y cyflog rili a neud petha'n affordable i bobl eraill."

Be fuasai'r Llywodraeth yn gallu gwneud i wneud pethe'n haws i chi?

"Hawsach? Lot o bethau.

"Mae'n big ask, yndy, bob dim ti isio.

"Ti'm methu cael bob dim ar unwaith.

"Mae'n gorfod bod yn slo bach i bawb weld pethau'n well.

"Mae'n gorfod mynd yn waeth cyn mynd yn well.

"Dyna be ydy o i gyd."

Ar bob un o'r strydoedd hyn ac yn bob cartre, mae gan bawb eu stori.

Yma ers 1962, does fawr yn synnu Sharon Jones.

Mae hi, fel nifer, yn poeni am y gaeaf.

Dyma ydy'r realiti pan mae pres yn brin.

"Dach chi'n gorfod gwatcho be dach chi'n gwario ar fwyd, gas, electric.

"Os oes gennych chi geir, petrol.

"Wedyn mae plant isio rhywbeth ac maen nhw'n gorfod mynd heb.

"Dydyn nhw'm yn dallt."

Plant yn gorfod mynd heb ar hyn o bryd?

"Yndy, dw i'm yn gwybod be fedran nhw wneud.

"Rhoi mwy o ddillad ar yn y gaeaf.

Mwy o flancedi i gadw'n gynnes."

Mi glywch chi straeon tebyg ar draws Cymru.

Cymunedau'n tynnu ynghyd yn wyneb heriau digynsail.

Mynnu mae'r Llywodraeth bod Cyllideb heddiw yn ddechrau ond i gymunedau fel hyn beryg y bydd blynyddoedd nes iddyn nhw deimlo unrhyw fudd o hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.