Marwolaeth dynes yn y Rhyl: Arestio dyn lleol 28 oed
Mae dyn lleol 28 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dynes 69 oed yn y Rhyl.
Fe wnaeth swyddogion arestio'r dyn yn hwyr nos Iau ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.
Mae Dean Mark Albert Mears, 33 oed, o Fae Cinmel eisoes wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth a byrgleriaeth gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
Yn ogystal mae dynes 25 oed gafodd ei harestio am gynorthwyo troseddwr wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Bu farw Catherine Flynn ar 30 Hydref mewn tŷ ar Ffordd Cefndy yn y dref.
Mae ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru yn parhau ac maen nhw'n galw am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.