Newyddion S4C

Agor caffi er mwyn ‘hybu’r Gymraeg’

02/11/2024

Agor caffi er mwyn ‘hybu’r Gymraeg’

Mae caffi newydd wedi agor mewn pentref yn Sir Gâr er mwyn “hybu’r Gymraeg” a rhoi lle i bobl leol “gyfarfod a siarad”.

Bwriad ‘Paned ar y Sgwâr – Calon Hendre’ ym mhentref Capel Hendre ger Rhydaman yw rhoi lle clud i bentrefwyr gyfarfod i sgwrsio, cael cwmni a hefyd hybu’r Gymraeg.

Fe ddaeth y syniad am y caffi, sydd o fewn  Swyddfa'r Post yno , gan y perchnogion Vipul ‘Vips’ Parekh a’i wraig Aran, a symudodd i’r pentref o ardal Birmingham gyda’u thri phlentyn rhyw dair blynedd yn ôl.

Mae’r plant yn ddisgyblion yn yr ysgol Gymraeg leol a bellach yn siarad yr iaith. 

Dywedodd Vips wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi teimlo pwysigrwydd ymdoddi yng nghymuned a diwylliant yr ardal a'u bod yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r iaith i hynny.

Dysgu'r Gymraeg

Fe aeth Vips ati i ddysgu’r iaith gyda’i blant ac mae Aran hefyd wedi penderfynu dysgu.

Dywedodd Vips: “Mae’r caffi yn lle i’r gymuned, yn hwb i’r gymuned a’r Gymraeg a lle i bobl ddod i gwrdd a siarad.

“Mae wedi bod yn bwysig i ni fel teulu i siarad Cymraeg yng Nghymru, mae’n bwysig i’n plant ‘wbod am y diwylliant a’r gymuned lle ry ni’n byw.”

Fe wnaeth y ddau gysylltu ag Ysgol Gymraeg Saron er mwyn dewis enw’r caffi ac fe fydd y disgyblion hefyd yn darparu deunydd ar gyfer hybu’r Gymraeg yn y caffi.

Ers i’r caffi agor ar ddechrau’r wythnos, mae pentrefwyr wedi bod yn dod at ei gilydd am baned, cacen a chlonc ac yn gwneud ffrindiau newydd.

'Ymdrech'

Dywedodd un o’r pentrefwyr, Shirley Taylor bod y teulu wedi cael cryn argraff ar y pentref. Dywedodd: “Mae nhw wedi neud ymdrech i ddysgu a siarad Cymraeg. 

"Mae’n nhw’n annwyl iawn ac yn gwerthfawrogi eu bod nhw mewn pentref Cymreig. 

"Mae’r teulu i gyd yn ymfalchïo yn yr awyrgylch Gymreig mewn pentref traddodiadol fel Capel Hendre. Mae’n wych ein bod ni’n cael teulu fel hyn yn y pentref.”

Mae un o’r pentrefwyr Glan Roberts wedi bod yn helpu Vips i siarad Cymraeg. 

Dywedodd Mr Roberts: “Mae e’n le cysurus, mae’r bobl dwi wedi siarad â nhw eisoes yn gyfeillgar iawn a ‘wy’n credu o ddifri mae’r posfeistr yn mynd i wneud llwyddiant o’i fusnes fan hyn oblegid mae e’n groesawgar a mantais iddo fe yw bod e’n siarad Cwmrâg."

Mae'r perchnogion hefyd yn gobeithio y bydd bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, ac sydd angen cwmni, yn dod i'r caffi.

Dywedodd Aran: “Fe wnaethon ni greu hyn gyda golwg ar y gymuned. Mae'n ganolbwynt braf y gall y gymuned ddod at ei gilydd. 

"Rydym hefyd yn cynnal sesiynau sgwrsio Cymraeg. Mae llawer o bobl eisiau dysgu felly rydym yn gobeithio y gall y caffi hwn helpu i ddarparu hynny. 

"Rydym yn gobeithio y gall ffrindiau a theulu ddod i gyfarfod, gwneud ffrindiau a ffrindiau newydd am oes."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.