Cymru Premier JD: Gêm fawr ar waelod y tabl wrth i Lansawel herio Aberystwyth
Wyth rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair, ac ar y funud mae sawl enw mawr yn eistedd yn yr hanner isaf ac yn gobeithio cipio lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Mae’r Bala, Y Drenewydd a Chei Connah yn glybiau sydd wedi cystadlu’n gyson yn yr hanner uchaf dros y degawd diwethaf ac mae’n syndod gweld y timau hynny yn llechu yn yr hanner isaf.
Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, ac mae’r ceffylau blaen, Pen-y-bont eisoes wedi cyrraedd y targed hwnnw, a dyw’r Seintiau Newydd na Hwlffordd ddim rhy bell ar eu holau.
Ar waelod y tabl bydd Llansawel yn croesawu Aberystwyth brynhawn Sadwrn mewn gêm dyngedfennol rhwng y ddau isaf yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd
Y Barri (5ed) v Y Seintiau Newydd (2il) | Dydd Sadwrn – 13:00
Mae’r Barri’n dechrau’r penwythnos yn y 5ed safle ac yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21.
Mae’r Dreigiau wedi ennill tair gêm yn olynol yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Medi 2021, ond mae tasg anodd o’u blaenau brynhawn Sadwrn.
Dyw pethau ddim wedi mynd yn berffaith i’r pencampwyr ar ddechrau’r tymor, ond ar ôl rhediad o chwe buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth mae’n ymddangos fel bod cyfnod sigledig y Seintiau wedi dod i ben.
Ar ôl curo Cei Connah ganol wythnos mae criw Croesoswallt bellach yn yr ail safle, bedwar pwynt y tu ôl i Pen-y-bont gyda dwy gêm wrth gefn.
A dyw’r Seintiau ddim wedi colli yn eu 11 gêm flaenorol yn erbyn Y Barri (ennill 9, cyfartal 2) yn cynnwys buddugoliaeth o 4-0 yn Neuadd y Parc ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅❌✅✅✅
Y Seintiau Newydd: ❌✅✅✅✅
Caernarfon (6ed) v Pen-y-bont (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ers curo’r Seintiau Newydd dair wythnos yn ôl mae Caernarfon wedi bod trwy gyfnod anodd gan fethu ag ennill mewn pedair gêm, a methu â sgorio yn eu dwy gêm ddiwethaf.
Er hynny, mae’r Cofis yn parhau i fod yn y Chwech Uchaf, ac aros yno fydd y nod i dîm Richard Davies yn yr wyth gêm nesaf.
Ar gyfartaledd mae 31 o bwyntiau wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf yn y tymhorau blaenorol, a gydaf wyth gêm i fynd tan yr hollt mae Pen-y-bont eisoes wedi cyrraedd y targed hwnnw.
Methodd Pen-y-bont â chyrraedd y Chwech Uchaf y tymor diwethaf, ond ar ôl dechrau rhagorol i’r ymgyrch hon, mae tîm Rhys Griffiths bum pwynt yn glir ar y copa, ac ond wedi colli un o’u 20 gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs Llansawel).
Mae Pen-y-bont wedi curo Caernarfon unwaith y tymor hwn, ond hon fydd eu taith gyntaf i’r Oval ers i’r Cofis selio eu lle yn Ewrop am y tro cyntaf erioed drwy ennill 3-1 yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2023/24.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅✅❌❌➖
Pen-y-bont: ͏✅✅✅➖➖
Cei Connah (9fed) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar yr adeg yma’r tymor diwethaf, wedi 14 gêm roedd Cei Connah yn 2il yn y tabl gyda 32 o bwyntiau, ond eleni dim ond hanner hynny sydd gan y Nomadiaid sy’n eistedd yn y 9fed safle (16pt).
Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid mewn perygl o fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf ar ôl cychwyn araf i’r tymor presennol o dan y rheolwr newydd Billy Paynter.
Bydd Met Caerdydd yn benderfynol o gyrraedd y Chwech Uchaf am y trydydd tymor yn olynol, ac mae’r myfyrwyr mewn safle addawol gyda wyth gêm i fynd tan yr hollt.
Sgoriodd Eliot Evans ddwywaith ym muddugoliaeth Met Caerdydd o 2-1 yn erbyn Cei Connah yn y gêm gyfatebol ym mis Medi, ond dyw’r myfyrwyr heb ennill oddi cartref yn erbyn y Nomadiaid ers Chwefror 2020.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏✅➖➖✅❌
Met Caerdydd: ͏❌❌❌➖✅
Hwlffordd (3ydd) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Hwlffordd yn parhau i fygwth tua’r brig ar ôl ildio dim ond pum gôl mewn 14 gêm gynghrair gan gadw naw llechen lân.
Ond sgorio goliau yw prif broblem yr Adar Gleision gan mae dim ond y ddau isaf, Aberystwyth (11) a Llansawel (11) sydd wedi rhwydo llai na Hwlffordd (14).
Mae’r Fflint yn dechrau’r penwythnos bedwar pwynt uwchben y ddau isaf, ond ar ôl ennill dim ond un o’u saith gêm flaenorol yn y gynghrair, mae angen canlyniad cadarnhaol ar dîm Lee Fowler.
Dyw Hwlffordd m’ond wedi colli dwy o’u 14 gêm gynghrair y tymor hwn, a daeth un o’r colledion rheiny oddi cartref yn erbyn Y Fflint ym mis Medi (Ffl 1-0 Hwl).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅✅͏➖✅➖
Y Fflint: ͏❌✅➖❌❌
Y Drenewydd (8fed) v Y Bala (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Drenewydd a’r Bala yn ddau glwb sydd wedi hen arfer â chystadlu yn y Chwech Uchaf, ond gyda wyth gêm i fynd tan yr hollt mae’r clybiau ychydig bwyntiau’n brin o’r hanner uchaf.
Dyw’r Drenewydd heb fod ar eu gorau gan ennill dim ond un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf gan ildio 14 o goliau yn eu tair gêm gartref ddiwethaf.
Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae Gwŷr Gwynedd wedi llithro i’r hanner isaf ar ôl ennill dim ond dwy o’u 11 gêm gynghrair flaenorol.
Dylai hi fod yn gêm agos ar Barc Latham gan mae un pwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm yng nghanol y tabl, ac mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y ddau dîm wedi gorffen yn gyfartal.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏❌❌✅❌❌
Y Bala: ➖❌➖➖➖
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1851952014042726468
Llansawel (12fed) v Aberystwyth (11eg) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw ar S4C)
Bydd hi’n gêm enfawr ar waelod y gynghrair brynhawn Sadwrn rhwng y ddau dîm isa’n y tabl sy’n brwydro i osgoi’r cwymp.
Llansawel sydd ar waelod y tabl ar ôl ennill dim ond un gêm gynghrair ers eu dyrchafiad, a honno yn erbyn y clwb ar y copa, Pen-y-bont.
Ond mae gan garfan Andy Dyer ddwy gêm wrth gefn, a byddai buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn eu codi uwchben Aberystwyth.
Dyw Llansawel ddim wedi ennill dim un o’u chwe gêm gartref y tymor hwn, a bydd y Cochion yn benderfynol o ddod â’r record honno i ben dros y penwythnos.
Mae Aberystwyth wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf oddi cartref, ac felly bydd y Gwyrdd a’r Duon yn falch o deithio i ffwrdd o Goedlan y Parc ble mae’r clwb wedi colli pump yn olynol.
Cafodd clwb presennol Llansawel ei ffurfio yn 2009, ac hon fydd eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Aberystwyth.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ✅➖❌❌❌
Aberystwyth: ͏❌❌❌✅❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.