Newyddion S4C

Cyn heddwas yn dychwelyd i'w hen orsaf i ddathlu ei ben-blwydd yn 100 oed

Cyn heddwas yn dychwelyd i'w hen orsaf i ddathlu ei ben-blwydd yn 100 oed

Mae cyn swyddog yr heddlu wedi dychwelyd i’w hen orsaf yn nhref yng Nghastell-nedd Port Talbot er mwyn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed. 

Fe ymunodd Howard Arthur gydag un o luoedd de Cymru, Cwnstabliaeth Morgannwg, ar 15 Ebrill 1952. 

Yn 1968, blwyddyn cyn sefydliad Heddlu De Cymru, fe ddaeth Mr Arthur yn Rhingyll gan symud i Bontardawe gyda'i deulu er mwyn gweithio yn yr orsaf heddlu yno. Ac yno y bu'n gwasanaethu nes ei ymddeoliad yn 1980.

44 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cyn heddwas wedi dychwelyd i’r orsaf hwnnw er mwyn dathlu gyda’i gyn cyd-weithwyr a theulu wedi iddo droi’n 100 oed ddydd Mercher. 

Mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “dda” wedi iddo gyrraedd y ganrif – “Dwi’n teimlo’r un fath ag o’n i’n teimlo yn 90,” meddai. 

Image
Dathlu

Atgofion

Yn ystod ei yrfa 28 mlynedd o hyd, fe wnaeth Mr Arthur wasanaethu cymunedau Castell-nedd, Resolfen, Pontarddulais a thu hwnt. 

Ac mae bellach yn awyddus i rannu rhai o’r atgofion melys sydd ganddo o’i gyfnod fel heddwas. 

“Ym Mhontarddulais, roedd ‘na dros 90 o ffermydd. Roedd rhaid i ni fynd yno a gwneud yn siŵr yr oedden nhw’n arwyddo’r gofrestr. 

“Roedd lot o ddefaid yn cael eu lladd ar un adeg ac roedd rhaid gwirio’r holl gŵn. 

“Tua 2 o’r gloch yn y bore ‘nathon nhw ddod o hyd i un ci defaid a naeth y ci cerdded heibio fi a chodi ei goes a phasio dŵr ar fy nghoes.

“Nath e ddangos ei werthfawrogiad!” 

Image
John Arthur
John Arthur, mab Howard

'Balch'

Mae Howard Arthur yn dad i ddau fab, John a Winford Arthur. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd John Arthur ei fod yn hynod o “falch” o’i dad a’r hyn mae wedi llwyddo i gyflawni ar hyd y blynyddoedd. 

“Mae’n ffantastig. Fe wnaeth dad dreulio diwedd ei yrfa yma [yng ngorsaf heddlu Pontardawe]. 

“Mae’n hyfryd. Dyma yw tro gyntaf fi yn yr orsaf heddlu yma felly mae’n brofiad hyfryd i allu dod a dad yn ôl yma,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.