Oes modd olrhain gwreiddiau efengyliaeth Americanaidd yn ôl i Gymru?
Mae mudiadau Cristnogol efengylaidd yn UDA yn “trosglwyddo agweddau gwrth-hoyw ar lefel fyd eang,” meddai cyn arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Gyda bron i un capel yn cau'r mis yng Nghymru a nifer yr addolwyr yn gostwng, mae’n stori gwbl wahanol yn America, ble mae efelyngiaeth yn tyfu yno.
Mae 1,700 o eglwysi mawr neu 'megachurch' yn denu dros gan mil o bobl yn wythnosol a’r pregethwyr yn cael eu hystyried fel enwogion. Ond mae llawer yn teimlo nad yw’r math yma o efengyliaeth sy’n tyfu yn America yn derbyn pawb, gyda rhai yn agored am eu teimladau ar bynciau fel erthyliad, ac yn amharod i dderbyn pobl hoyw i’w heglwysi.
Wrth siarad ar raglen deledu ar S4C ar y pwnc, Efengyliaeth – Oes Atgyfodiad?, dywedodd Mr Price, yr Aelod Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fod y mudiad yn “pwyntio bys at leiafrifoedd”.
Cafodd Mr Price ei fagu fel cristion efengylaidd, ond roedd yn mynd i eglwys nad oedd yn derbyn pobl hoyw, felly penderfynodd yn ddiweddarach i droi ei gefn ar ei grefydd.
“Mae’n ffenomenon ar hyn o bryd fod nifer fawr o fudiadau Eglwysi Efengylaidd yr Unol Daleithiau yn fwriadol mynd ati i genhadu a throsglwyddo’r agweddau gwrth-hoyw yma ar lefel fyd eang,” meddai.
“Dyw e ddim yn swnio i fi fel crefydd sydd wedi’i seilio ar gariad. Dwi’n credu bod llinell wedi cael ei chroesi nawr, lle mae bys yn cael ei bwyntio mewn ffordd sy’n hollol wrthyn i ddywediadau Iesu Grist ei hun.
“Ac felly rhaid cwestiynu, beth yw’r cymhelliant go iawn?”
Cymru - y man geni?
Mae gwreiddiau’r megachurches yn America cael eu holrhain i ddiwygiad mawr 1904-05 yng Nghymru.
Mae llawer o Efengylwyr Americanaidd yn gweld Cymru fel man geni eu crefydd.
Mi wnaeth Greg Locke, un o’r pregethwyr mwyaf dadleuol yn America, sy’n cael ei gyfweld yn y rhaglen gan y newyddiadurwr Maxine Hughes, enwi un o’i feibion ar ôl ffigwr allweddol y cyfnod, Evan Roberts.
Mae rhai Efengylwyr yng Nghymru yn credu bod diwygiad arall ar y ffordd ac y bydd hefyd yn ymledu o Gymru i wledydd eraill Ewropeaidd.
Mae Heulwen Davies yn Efengylwr ifanc, sy’n rhan o’r 21st Century Church yn Llanelli.
Dywedodd Ms Davies: “Dreifio trwy bentrefi a gweld y capeli yma ar gau fel graveyard - mae mor drist, torri nghalon i.
“Mae rhywbeth sbesial ambyti ni’n dweud, ‘na, ni’n mynd i neud rhywbeth amdan hwn, mynd i adfywio, mynd i ail adeiladu’.
“Ni’n mynd i neud beth bynnag ni’n gallu yn ein moment ni yn hanes, yn y foment hon i weld y llefydd yma unwaith eto fod goleuni yn y cymunedau yma, i unwaith eto rhoi gogoniant i Iesu.”
Mi fydd Efengyliaeth – Oes Atgyfodiad? yn darlledu ar S4C ar nos Sul 3 Tachwedd am 20:00.