Canolfan Mileniwm Cymru yn paratoi i ail-agor

Canolfan Mileniwm Cymru yn paratoi i ail-agor
Wrth i'r cyfyngiadau lacio ymhellach, mae un o brif ganolfannau celfyddydol Cymru'n paratoi i ail-agor am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Ac mae gan Ganolfan Mileniwm Cymru raglen lawn o sioeau ac arddangosfeydd yn barod i ddiddanu'r gynulleidfa.
Mae dros flwyddyn bellach ers i'r ganolfan orfod cau ar unwaith, a gohirio neu ganslo’r holl sioeau mawr.
Y disgwyl oedd y byddai’r ganolfan yn ail-agor fis Ionawr ond wrth i'r ail don daro'r wlad doedd hynny ddim yn bosib.
Arweiniodd hyn oll at golledion enfawr.
Mae'r ganolfan yn cyfrannu £70 miliwn i'r economi leol, gyda bwytai, caffis a siopau bach i gyd yn dibynnu ar y niferoedd sy'n mynychu'r sioeau.
Llun: ell brown