
Dros 50 wedi marw mewn llifogydd yn Sbaen
Mae o leiaf 51 o bobl wedi marw ar ôl i law trwm achosi llifogydd nerthol yn ne ddwyrain Sbaen.
Mae sawl ardal yn y wlad wedi profi stormydd a chenllysg trwm, gan achosi fflachlifoedd.
Mae’r gwasanaethau brys yn dweud fod o leiaf 51 o bobl yn ardal Valencia wedi marw, gan gynnwys plant.
Mae ymdrechion i achub pobl wedi cychwyn ond mae llywydd ardal Valencia, Carlós Mazón, wedi dweud ei fod yn “amhosib” dweud yn union faint o bobl sydd wedi marw ar hyn o bryd.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1851598567212810563

Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos ceir yn cael ei sgubo gan y llifogydd, pontydd yn cael eu dymchwel a thrên wedi ei symud oddi ar gledrau.
Mae adroddiadau o bobl yn ceisio dianc rhag y llifogydd drwy afael ar ganghennau coed, tra bod eraill yn gaeth i’w cartrefi.
Mae gweithwyr y gwasanaethau brys wedi defnyddio dronau er mwyn ceisio dod o hyd i bobl ar goll yn yr ardal Letur.
Dywedodd swyddog lleol yr ardal, Milagros Tolon, wrth y darlledwr TVE yn Sbaen : “Y flaenoriaeth yw dod o hyd i’r bobl yma.”
Llun: Llifogydd mewn slym yn Picuana, ger Valencia (Wochit/AFP)