Ymosodiad Southport: Axel Rudakubana yn gwrthod siarad wrth ymddangos mewn llys ar gyhuddiadau pellach
Mae llanc sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio tair merch yn Southport wedi ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher i wynebu cyhuddiadau pellach yn ymwneud â therfysgaeth.
Daeth cyhoeddiad ddydd Mawrth fod Axel Rudakubana wedi ei gyhuddo o gynhyrchu gwenwyn Ricin a bod â llawlyfr hyfforddiant milwrol Al Qaeda yn ei feddiant.
Mae'r dyn ifanc a dreuliodd ei blentyndod yng Nghaerdydd hefyd yn wynebu cyhuddiad o fod â gwybodaeth yn ei feddiant allai fod yn ddefnyddiol i berson sy'n cyflawni gweithred derfysgol neu'n paratoi i wneud hynny.
Wrth ymddangos yn y llys dros linc fideo o garchar HMP Belmarsh, fe wnaeth Mr Rudakubana aros yn dawel wrth beidio ag ateb unrhyw gwestiynau yn ystod gwrandawiad a wnaeth bara llai na 10 munud.
Ni roddodd ateb pan ofynnwyd iddo gadarnhau ei enw, ac fe wnaeth swyddog diogelwch oedd wrth ei ymyl yn y carchar ddweud ei fod wedi dewis peidio â siarad.
Dywedodd y bargyfreithiwr yn ei amddiffyn, Stan Reiz KC: “Mae Mr Rudakubana wedi dewis aros yn dawel mewn gwrandawiadau blaenorol yn ogystal.
"Am resymau ei hun, mae wedi penderfynu peidio ag ateb y cwestiwn."
Fe wnaeth y bargyfreithiwr gadarnhau ei enw er mwyn i'r gwrandawiad barhau.
Ar ran yr erlyniad, fe wnaeth Deanna Heer KC wneud cais i'r cyhuddiadau newydd gael eu hanfon i Lys y Goron Lerpwl i gael "eu hychwanegu" at gyhuddiadau eraill yn erbyn Mr Rudakubana yn ymwneud â'r digwyddiad yn Southport.
Fe wnaeth y barnwr Paul Goldspring gadarnhau y byddai Mr Rudakubana yn cael ei gadw ar remánd ar y cyhuddiadau newydd.
Cafodd yr achos ei anfon i Lys y Goron Lerpwl am wrandawiad i baratoi am yr achos ac i'r diffynnydd roi ple, a fydd yn cael ei gynnal ar 13 Tachwedd.
Cyhuddiadau
Daw'r cyhuddiadau wedi i swyddogion archwilio ei dŷ yn Banks, Sir Gaerhirfryn, yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Serena Kennedy ddydd Mawrth.
Mae'r drosedd derfysgol yn ymwneud â dogfen PDF o'r enw Military Studies In The Jihad Against The Tyrants, sef llawlyfr hyfforddi Al Qaeda, meddai Ms Kennedy.
Mae Mr Rudakubana eisoes wedi ei gyhuddo o lofruddio tair o ferched, Bebe King, Alice Dasilva Aguiar ac Elsie Dot Stancombe mewn dosbarth dawnsio yn Southport ar 29 Gorffennaf.
Yn ogystal mae wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio wyth o blant eraill, athrawes y dosbarth dawns, Leanne Lucas a'r dyn busnes John Hayes.
Nid yw'r ymosodiad yn cael ei drin fel digwyddiad terfysgol gan heddlu gwrthderfysgaeth, meddai Ms Kennedy.
“Rwy’n cydnabod y gallai’r cyhuddiadau newydd hyn arwain at ddyfalu," meddai.
“Er mwyn i drosedd gael ei datgan fel digwyddiad terfysgol, byddai angen sefydlu cymhelliant.
“Byddwn yn cynghori unrhyw un yn gryf i beidio â dyfalu beth yw’r cymhelliant yn yr achos hwn.
“Mae’r achos troseddol yn erbyn Axel Rudakubana yn fyw ac mae ganddo hawl i achos teg."
Dywedodd Downing Street fod amseru'r cyhoeddiad diweddaraf am y cyhuddiadau yn benderfyniad a gafodd ei wneud gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
Daw'r cyhuddiadau wedi i swyddogion archwilio ei dŷ yn Banks, Sir Gaerhirfryn, yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Serena Kennedy ddydd Mawrth.