Newyddion S4C

Caws gwerthfawr o laethdy ger Llambed wedi ei ddwyn o Lundain

29/10/2024

Caws gwerthfawr o laethdy ger Llambed wedi ei ddwyn o Lundain

Llaeth amrwd gwartheg Bwlchwernen Fawr ger Llambed yw deunydd crai Caws Hafod, mae'n cael ei wneud â llaw ar fferm organig hynaf Cymru o le maen nhw wedi cyflenwi Neal's Yard ers 17 o flynyddoedd.

Ond nawr mae cyflenwad mawr ohono wedi cael ei ddwyn gan bobl oedd yn honni eu bod yn fasnachwyr caws rhyngwladol.

Yn ôl Neal's Yard mae dros 22 tunnell o gaws wedi cael ei ddwyn, roedd y cyfanswm yn cynnwys 250 cosyn mawr o Gaws Hafod.

Roedd pobl oedd yn honni eu bod yn prynu ar ran siopau yn Ffrainc wedi archebu'r caws, ac wedi ei dderbyn cyn i Neal's Yard sylweddoli eu bod yn dwyllwyr a'u cwmni nhw'n ffug.

Yn ôl un o weithwyr y fferm, mae'r cyfan yn sioc enfawr.

"Gethon nhw 2.5 tunnell o gaws, cyfanswm o 22 tunnell ar y lori. Bydden i'n meddwl bod gwerth hyd at £30,000 wedi mynd o 'ma.

"Chi'n clywed am bobl yn dwyn ceir, cwads fferm, torri mewn i tai, ond caws, dim erioed wedi clywed y fath beth."

Yn ôl arbenigwr ar fwyd, dyw e ddim yn syndod bod y cawsiau wedi cael eu targedu fel hyn, gan fod bwydydd o ansawdd yn gallu costio gymaint.

"Mae bwyd a diod arbennig yn mynd am brisiau lloerig. 'Dan ni i gyd wedi clywed am boteli o wirodydd sy'n mynd am brisiau eithriadol neu boteli gwin, hyd yn oed pecynnau o de.

"Sa Nain byth yn talu hynna! Mae'r un peth yn wir am gaws. Mi fedrwch chi gael caws hollol arbennig. Mae'n dibynnu ar y farchnad lle dach chi'n gwerthu'r caws.

"Dw i'n meddwl bod prisiau gwerthu'r caws yn Llundain tua £44 y cilo, yma yn Llanrwst mae'n £28 y cilo. Mae'r prisiau'n amrywio."

Dywedodd Heddlu'r Met nad oes neb wedi'i arestio a bod ei ymchwiliad yn parhau.

Mae Neal's Yard wedi talu cynhyrchwyr y caws eisoes fel nad oes rhaid i'r fferm ger Llambed na'r hufenfeydd eraill ysgwyddo'r costau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.