'Anoddach' sicrhau morgeisi ar eiddo arfordirol yn y dyfodol, medd arbenigwyr

'Anoddach' sicrhau morgeisi ar eiddo arfordirol yn y dyfodol, medd arbenigwyr

Fe fydd yn anoddach “os nad yn amhosib” i sicrhau yswiriant neu forgais mewn rhai lleoliadau ar arfordir Cymru yn y dyfodol.

Dyna’r rhybudd gan arbenigwyr yn y maes sy’n galw am “sgwrs genedlaethol” am oblygiadau newid hinsawdd.

Erbyn diwedd y ganrif fe allai degau ar filoedd o gartrefi glan môr gael eu heffeithio gan lifogydd neu erydiad.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae ‘na drafodaethau’n digwydd eisoes gyda rhai cymunedau.

Image
Nefyn
Fe gafodd Geraint Jones ei "ddychryn" gan effaith uniongyrchol erydiad y môr ar arfordir Gwynedd yn ddiweddar.

Ychydig wythnosau cyn i dirlithriad enfawr yn Nefyn hawlio sylw rhyngwladol, roedd Geraint Jones wedi penderfynu agor caffi gerllaw.

Roedd gweld rhannau o erddi’r tai uwchben y traeth wedi disgyn i’r môr yn achos “dychryn”.

Ers hynny mae wedi trafod a’i gwmni yswiriant ac yn teimlo’n ffodus bod y caffi wedi’i leoli uwchben wal sy’n ei amddiffyn rhag y môr.

“Ry’n ni’n gobeithio bod ‘na rywun am edrych ar ein holau ni yn fan hyn,” meddai.

“Mae’n rhaid i chi gymryd rywfaint o lwc gyda busnes hefyd ond mae’n sobor o beth (i’r sawl gafodd eu heffeithio).”

Angen 'rhagor o sylw' i heriau newid hinsawdd

Dweud bod angen rhagor o sylw i sicrhau bod perchnogion tir ac eiddo ar hyd yr arfordir yn ymwybodol o heriau newid hinsawdd dros y degawdau nesa mae Dr David Clubb, sefydlydd cwmni ymgynghori amgylcheddol Afallen.

Mae ‘na oblygiadau “hyd yn oed i’r sawl sy’n byw ar dop bryn ym Mhowys,” meddai.

“Os ydy Lerpwl, neu Gaerdydd neu Casnewydd yn cael llifogydd yna ble fydd y bobl yna’n mynd?”

“Dwi’n credu mae ‘na gyfle i gael y neges allan, cael sgwrs genedlaethol ynglŷn â be' mae Cymru'n mynd i edrych fel yn y dyfodol?”

Cyfeiriodd at fapiau rhyngwladol sydd wedi’u cynhyrchu gan ymchwilwyr Climate Central o’r Unol Daleithiau, sy’n rhagweld y bydd rhannau o Gymru’n dioddef llifogydd o’r môr yn flynyddol erbyn 2050.

Image
Gareth Clubb
Mae angen "sgwrs genedlaethol" am effaith newid hinsawdd yn y dyfodol medd Dr David Clubb.

Yn ddiweddar fe wnaeth y corff sy’n cynghori llywodraethau’r Deyrnas Unedig ar newid hinsawdd hefyd rybuddio fod ardaloedd o arfordir y gorllewin sy’n wynebu “bygythiad i’w hyfywedd” oherwydd cynnydd yn lefel y môr a thywydd mwy eithafol.

Mae dros 10,000 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd arfordirol ar hyn o bryd, gyda’r corff yn rhagweld y gallai hynny gynyddu 260% erbyn y 2080au.

Ac mae 2126 eiddo wedi’u bygwth gan erydiad arfordirol os nad yw amddiffynfeydd presennol yn cael eu cynnal.

“Mae ‘na oblygiadau sicr ddigon i’r priswyr hynny sy’n mynd allan i brisio eiddo,” eglurodd Owain Llywelyn o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yng Nghymru wrth raglen Newyddion S4C.

“Mae’r banciau hefyd yn mabwysiadu polisi o asesu risg ac un o’r ffyrdd y maen nhw’n mynegi hynny yw drwy ddweud reit ‘da ni mynd i gael blaendal o 30% falle hyd yn oed 60% neu wrth gwrs dim morgais o gwbl.”

“Yn sicr fe fydd hi’n loteri cod post mewn rhai llefydd”.

Mae Malcolm Tarling o Sefydliad Yswirwyr Prydain yn cytuno bod newid hinsawdd yn “ffactor sylweddol i bob yswiriwr erbyn hyn”.

“Mae un ym mhob wyth eiddo drwy Gymru yn fregus i lifogydd a’r bygythiad hynny ond yn mynd i waethygu,” meddai.

Yn ddiweddar fe wnaeth y diwydiant gyhoeddi cynllun gweithredu ar newid hinsawdd, er mwyn gwneud mwy i ariannu’r gwaith o leihau allyriadau tŷ gwydr ac annog cwsmeriaid i wneud dewisiadau cynaliadwy fel derbyn car trydan neu foiler gwyrdd wrth wneud cais am daliad yswiriant.

Ond mae’n “realiti trist” meddai na all y diwydiant helpu pobl sy’n wynebu erydiad arfordirol am fod hynny’n “risg sy’n gallu cael ei ragweld a sy’n digwydd yn raddol dros amser.”

Image
CNC
Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn bellach gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau lliniaru traethlyn ar gyfer ardaloedd lle mae effeithiau newid hinsawdd yn destun pryder.

Yn ôl Sian Williams, pennaeth gweithrediadau’r corff yn y gogledd orllewin, mae’n bwysig trin y pwnc yn ofalus a pheidio codi ofn ar bobl.

Ond mae’r trafodaethau wedi dechrau mewn rhai cymunedau megis Fairbourne yng Ngwynedd, meddai, gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus – gafodd eu sefydlu i wella cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus – yn arwain y ffordd.

“Yn amlwg fe allwn ni sbïo ar mapiau, sbïo ar wybodaeth, sbïo ar data sy gyno ni ond mae profiad pobl am be sy'n wynebu nhw yn y dyfodol yn andros o bwysig, yn rhan o'r sgwrs yna hefyd.”

“Felly dyna fydd y cam nesa i ni wrth symud ymlaen bydd mynd i mewn a siarad gyda cymunedau, a gweld yn union be ma nhw’n teimlo, be ma nhw'n boeni amdano - a gwrando ar eu syniadau nhw am y dyfodol.”

“Da ni ddim yn unig yn sôn am dai a eiddo fan hyn ond da ni'n sôn am dreftadaeth a hanes pobl sy'n byw yn yr ardaloedd rheini hefyd."