Manchester United yn diswyddo eu rheolwr Erik ten Hag
Mae Manchester United wedi diswyddo Erik ten Hag fel rheolwr y clwb.
Roedd y gŵr o’r Iseldiroedd wedi bod yn rheolwr ar y clwb ers 2022, gan ennill y Cwpan Carabao yn 2023 a Chwpan FA Lloegr y tymor diwethaf.
Ond roedd canlyniadau’r tîm y tymor hwn wedi bod yn anghyson, gan golli pedair o’u naw gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Inline Tweet: https://twitter.com/ManUtd/status/1850867662055932120
Fe wnaeth y tîm golli 2-1 yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn, gan adael y tîm yn 14eg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
Wrth gyhoeddi ei ddiswyddiad fore Llun, dywedodd y clwb eu bod yn “ddiolchgar am bopeth y mae wedi gwneud yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb” a’u bod yn “dymuno’r gorau” iddo yn y dyfodol.
Fe fydd cyn ymosodwr y clwb Ruud van Nistelrooy yn cymryd yr awenau fel rheolwr dros dro, tra bod y clwb yn chwilio am reolwr newydd.