Trump neu Harris? Penbleth i un ffermwr o Sir Gâr cyn bwrw pleidlais
Trump neu Harris? Penbleth i un ffermwr o Sir Gâr cyn bwrw pleidlais
Nid pob un ffermwr o Sir Gâr sy’n gorfod dewis rhwng Kamala Harris neu Donald Trump ar 5 Tachwedd, ond dyna’r benbleth sy’n wynebu Elfryn Thomas.
Treuliodd Elfryn ei blentyndod ar fferm ei dad-cu a’i fam-gu yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin. Ond Phoenix, Arizona yw ei gartref erbyn hyn.
Mae’r dalaith yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau yn 14 gwaith maint Cymru ac yn wahanol i Gymru, dyw hi bron byth yn bwrw yno. Mae hi hefyd yn dalaith allweddol yn yr Etholiad Arlywyddol rhwng Donald Trump a Kamala Harris ym mis Tachwedd.
‘Breuddwyd tad-cu oedd dod i America’
“Roeddwn i wedi bod yn y Coleg Amaethyddol yn Aberystwyth, a Wisconsin oedd y dairy capital of the world bryd ‘ny,” dywedodd Elfryn wrth Siôn Jenkins ym mhennod nos Lun o Y Byd ar Bedwar.
“Breuddwyd tad-cu o’dd dod mas i America, so da’th e mas ‘ma drwyddo fi wedyn.”
Mae Elfryn, sy’n 47 oed, yn briod a Tami ac mae ganddynt bedwar o blant. Yn 2015 rhoddodd orau i’w freuddwyd o fod yn ffermwr godro a symud i Phoenix er mwyn rhedeg y cwmni ceir teuluol.
Gyda dyfodol a llwyddiant ei fusnes yn brif flaenoriaeth, mae Elfryn yn credu mai Donald Trump yw’r person gorau i redeg y wlad pan mae’n dod at yr economi.
“Mae e’n well dyn busnes. Amser o’dd e’n President o’r blaen, o’dd busnes pawb yn llwyddo," meddai.
"O’dd prisie llaeth, ŵye a bara lot yn llai, a nawr ma’ nhw jyst wedi… Wel, ma’ nhw ‘di treblu! Dim politician o’dd Trump pan dda’th e mewn fel President - dyn busnes o’dd e.”
Dyma fydd yr eildro i Elfryn bleidleisio mewn Etholiad Arlywyddol ar ôl dod yn ddinesydd yn 2020. Mae’n barod wedi profi’r rhwygiadau gwleidyddol sy’n bodoli yn y wlad, a hynny dan yr un to a’i wraig, Tami, sydd wedi cofrestru fel Democrat.
“Dwi’n meddwl ei fod e’n warthus," meddai Tami wrth ddisgrifio ei theimladau tuag at Donald Trump.
Mae hi’n poeni am bolisi erthyliad. Cafodd yr hawl cenedlaethol cyfansoddiadol i erthyliad ei wrthdroi gan y Goruchaf Lys (Supreme Court) yn 2022 gan olygu ei fod bellach wedi ei wahardd mewn 13 talaith.
Gyda’r pâr priod yn magu merch yn ei harddegau, mae gwarchod hawliau menywod yn bwysig i Elfryn a Tami. Er bod Elfryn yn teimlo mai Kamala Harris fyddai’n gwneud y gwaith gorau o sicrhau hynny, mae ganddo ei amheuon.
“Fi’n credu bod hi’n fwy genuine na Trump, ond sai’n siŵr ife hi yw’r person sy’n mynd i allu troi’r wlad nôl fel o’dd hi. Trump fi’n gweld yw’r boi sy’n gallu ‘neud rhywbeth fel ‘ny,” esboniodd.
Pryder arall sydd gan Elfryn yw mewnfudo. Mae Arizona yn rhannu ffîn 400 milltir gyda Mecsico a dyma’r pwnc pwysicaf i bobl y dalaith yn yr Etholiad. Unwaith eto, diogelwch ei ferch sydd ar ei feddwl wrth wynebu’r pwnc.
“Gyda phlant ifanc, mae e’n ofnus i bawb sy’ ‘ma, yn enwedig merched ifanc," meddai.
"Ma’ rhai manne so ni’n gadael i Ariana i fynd. Ma’ sex trafficking yn wael ofnadwy ‘ma; ma’ drug trafficking yn wael ofnadwy ‘ma; drug cartels - ma’ nhw’n rhedeg nôl a ‘mlaen trwyddo Arizona trwy’r amser. Mae’n ofnus.”
Mae disgwyl i’r ras rhwng Donald Trump a Kamala Harris i fod yn hanesyddol o agos, gyda’r canlyniad yn ddibynnol ar lond llaw o daleithiau all bleidleisio un ffordd neu’r llall. Y saith talaith yma yw Arizona, Georgia, Michigan, Nevada, North Carolina, Pennsylvania a Wisconsin.
Fe enillodd Joe Biden Arizona o drwch blewyn yn 2020 gan gipio’r dalaith oddi wrth Donald Trump gyda dim ond 11,000 o bleidleisiau. Mae Harris a Trump wedi brwydro’n galed i gipio’r dalaith ac fe all pleidlais pobl fel Elfryn, yr undecided voters fel y caiff eu galw, fod yn gwbl allweddol.
Bydd 150 miliwn o Americanwyr yn troi i’r blychau pleidleisio ar fore 5 Tachwedd 2024.
I fynd dan groen Etholiad Arlywyddol 2024 gwyliwch Y Byd ar Bedwar nos Lun am 20:00 ar S4C a BBC iPlayer.
Prif lun: Elfryn gyda’i wraig, Tami, a’u plant (o’r chwith) Gethin, Ariana, Rees a Ryan.