Carcharu dyn am 24 mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol
Mae dyn wedi’i garcharu am 24 mlynedd am droseddau rhyw yn dyddio’n ôl i’r 1970au.
Plediodd Peter David Long, 66 oed, yn euog ar 21 Awst i chwe chyhuddiad o gyfathrach rhywiol â merch o dan 13 oed ac 13 cyhuddiad o ymosod yn anweddus.
Roedd yr 19 trosedd yn erbyn pedair merch oedd i gyd rhwng saith ac 14 oed ar adeg y troseddu.
Yn Llys y Goron Caerdydd fe gafodd Long ei ddedfrydu i 24 mlynedd o garchar gyda blwyddyn ar drwydded a gorchymyn atal oes am bob achwynydd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Georgia Davis: “Mae’r merched hyn sy’n fodlon siarad â ni ynglŷn â gweithredoedd dirmygus Long yn golygu ei fod yn mynd i wynebu’r canlyniadau yn llawn.
"Rwyf am eu canmol am eu cryfder drwy gydol yr ymchwiliad a phroses y llys. Cymerodd lawer iawn o ddewrder i ddod ymlaen a dweud wrthym beth ddigwyddodd.
“Bydd honiadau o droseddau rhyw bob amser yn cael eu cymryd o ddifrif gan ein swyddogion serch faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio, a gobeithio bod yr euogfarn hon yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i adrodd eich stori. Rydym wedi ymrwymo i ddod â’r rhai sy’n gyfrifol o flaen eu gwell, ni waeth pryd y digwyddodd y troseddau."
Ychwanegodd: “Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd rhywiol i ddod ymlaen a’i riportio, gan wybod y byddwn yn ymchwilio’n drylwyr. Mae gennym swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig a fydd yn eich cefnogi drwy’r amser, yn ogystal ag asiantaethau partner.”
Gorchmynnwyd Long hefyd i arwyddo'r gofrestr troseddwyr rhyw am oes.