Seren EastEnders, Derek Martin, wedi marw yn 92 oed

Derek Martin.

Mae'r actor Derek Martin, oedd yn adnabyddus am chwarae cymeriad Charlie Slater yn yr opera sebon EastEnders, wedi marw yn 92 oed.

Bu Martin yn chwarae'r tad a gyrrwr tacsi ar yr opera sebon rhwng 2000 a 2011, gan barhau i wneud ymddangosiadau gwadd tan iddo adael yn 2016.

Dywedodd datganiad gan ei deulu: "Nid tad yn unig oedd Derek i ni, roedd yn ffrind ac yn ein cefnogi drwy ein huchafbwyntiau a'n hisafbwyntiau. 

"Ni stopiodd ddysgu byth, roedd wrth ei fodd yn cwrdd â phobl ac roedd bob amser yn hael gyda'i amser. Rydym ni'n ei golli'n fawr.

"Mae'r teulu'n gofyn am barchu eu preifatrwydd yn ystod yr amser anodd hwn."

Dywedodd ei asiant, Sharon Henry, ei fod yn "llais dosbarth gweithiol gwirioneddol ddilys mewn teledu a ffilmiau Prydeinig".

Ychwanegodd: "Roedd Derek yn dad ymroddedig, yn aelod hael o'r elusen Water Rats, yn olffiwr brwd ac yn ddyn da a fydd yn cael ei golli’n fawr."

Dywedodd llefarydd ar ran EastEnders: "O’r eiliad y cyrhaeddodd, fe wnaeth portread Derek o Charlie Slater ei roi ar unwaith yng nghalonnau’r gynulleidfa, fel penteulu un o deuluoedd mwyaf eiconig EastEnders.

"Byddai Charlie yn gwneud unrhyw beth dros ei deulu, ac yn debyg iawn i’w gymeriad, byddai Derek yn gwneud yr un peth i’r rhai o’i gwmpas. 

"Roedd Derek yn cael ei garu’n fawr gan bawb a weithiodd gydag ef yn EastEnders a bydd bob amser yn cael ei gofio gyda hoffter mawr.

"Mae ein cariad a’n meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau."

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.