Newyddion S4C

Gwahardd fêps untro yng Nghymru o 2025

25/10/2024

Gwahardd fêps untro yng Nghymru o 2025

Teclynnau bach aml-liw ac aml-flas.

Ers bron i 20 mlynedd, mae vapes wedi'u gwerthu ar draws Prydain.

Yn y blynyddoedd dwetha, mae'r rhai sy'n cael eu defnyddio untro wedi dod yn fwy poblogaidd yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

O fis Mehefin y flwyddyn nesa bydd hi'n anghyfreithlon i werthu nhw.

I nifer o smygwyr mae vapes wedi bod yn ffordd effeithiol o roi'r gorau i sigarets.

Maen nhw hefyd yn gyfleus.

Ond gan fod y rhai untro wedi'u neud allan o blastig, metel a lithiwm does dim modd eu hailgylchu.

Gyda 5,000,000 yn cael eu taflu bob wythnos i finiau sdim syndod bod hynny wedi ychwanegu at y broblem sbwriel.

"Yn yr arolygon sbwriel, welon ni bod gan dros 10.2% o strydoedd sbwriel vapes arnyn nhw.

"Mae'n debygol bod y ffigur hwn lot yn uwch na hyn gan bo ni heb wneud y surveys ar draethau ac ardaloedd hardd na ffyrdd prysur.

"Mae'n debyg bydd y ffigur lot yn uwch."

Mae 'na boeni gall y gwaharddiad roi hwb i'r farchnad ddu sydd eisoes yn broblem.

Ffordd anghyfreithlon o werthu vapes sy'n cynnwys mwy o nicotin.

Oes 'na groeso i'r gwaharddiad ym Mangor?

"Go dda. Mae 'na ormod ohonyn nhw a maen nhw'n beryg.

"Dw i'n falch bod nhw'n cael eu banio.

"Gobeithio nawn nhw fanio bob un achos dan ni'm yn gwybod beth sydd ynddyn nhw."

"Mae'n beth da, o'n i'n arfer smocio fy hun ond faswn i ddim yn awgrymu i neb gychwyn.

"Maen nhw braidd fel alcopops yn denu plant atyn nhw."

"Mae 'na fwy o shops ar y stryd fawr mae e fwy yn gwynab chdi!"

Faint o ergyd geith y rheol newydd ar fusnesau sy'n eu gwerthu?

"We've always tried to get people on more sustainable kits so it works out cheaper for them in the long run and better for us.

"Everybody's happy and we're not getting it chucked in landfill.

"I think it will affect some more than us but on the whole I don't think it will be too much of a dent to our business."

Heb os, mae'r teclynnau'n cael effaith ar yr amgylchedd ac ar iechyd, yn enwedig iechyd pobl ifanc.

Bydd angen aros i weld os bydd y gwaharddiad yn datrys y broblem.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.