Newyddion S4C

Tlodi gwledig yn ‘cuddio yng ngolau dydd’

25/10/2024

Tlodi gwledig yn ‘cuddio yng ngolau dydd’

"Mae tlodi gwledig yma.

"Fel busnes, sdim lot o arian sbar gyda pobl sy'n byw yn yr ardal 'ma."

Mae hwnna'n effeithio ar fusnesau?

"Mae'n effeithio arnon ni."

Tlodi gwledig, mae'n cuddio yng ngolau dydd yn ôl strategaeth newydd gafodd ei chyhoeddi heddi.

"Mae'r rhain o'r 1930s."

Yma yn Llandysul, mae Sandra wedi bod yn rhedeg busnes henebion ers pum mlynedd.

Er bod 'na gymorth ar gael trwy grantiau meddai y pethau sylfaenol, fel cludiant, meddai sy'n cael effaith ar bobl mewn ardaloedd gwledig.

"Un o'r peth mwyaf yw infrastructure transport gyda ni.

"Nath y Bwcabus orffen yn glou rili.

"Mwy o'r henoed oedd yn defnyddio fe i ddod mewn o'r hinterlands.

"Heb hwnna, ni 'di colli busnes nhw i'r economi lleol ond hefyd ni 'di rhoi pobl mewn sefyllfa eitha isolated a methu dod mewn i gael cwmni."

Yn ôl ymchwil gan Sefydliad Bevan, mae aelwydydd gwledig yn gwario fel arfer £27 yr wythnos yn fwy ar gludiant a £4 yr wythnos yn fwy ar fwyd o gymharu ag aelwydydd mewn ardaloedd trefol.

Ar ben hynny, mae incwm ar gyfartaledd yn is mewn ardaloedd gwledig hefyd.

Gwynedd, Powys, Sir Benfro, Conwy ac yma yng Ngheredigion gyda'r isaf trwy Gymru.

"Mae ystadegau'n dangos bod e'n lawer mwy yng nghefn gwlad.

"Mae'n rhywbeth cudd a dweud y gwir.

"Yn Sir Gar, mae 34.6% yn byw mewn tlodi.

"Mae hwnna'n ddweud mawr."

Yng Nghaerdydd heddi, y cyhoeddiad swyddogol sydd wedi denu cefnogaeth amlbleidiol.

"Pob polisi sy'n dod allan, 'dan ni isio sicrhau bod 'na impact assessments ar effaith ar lefydd gwledig.

"Dw i isio gweld pob amser mae'r Llywodraeth yn creu polisi 'dan ni isio gweld sut mae hynny'n effeithio llefydd gwledig."

"2015 dechreues i."

Nôl yn y gorllewin a chwmni tacsis a bysus sy'n cynnal Rhydian Tomos.

Mae pethau'n waeth nawr achos mae shwt gyment o fiwrocratiaeth.

Gyda chynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig yn bodoli mewn ardaloedd o'r Deyrnas Unedig mae 'na gynnig yn y strategaeth i'w ymestyn i Gymru.

Syniad da, yn ôl y gŵr busnes hwn.

"Byddai fe'n gymorth mawr.

"Ni'n gwario, yn dependo beth sydd 'mlaen, rhyw £2,000 yr wythnos ar diesel.

"'Sen ni'n safio 2c neu 3c y litr dros wythnos, mis, blwyddyn bydd e'n adio lan at eitha tipyn."

"Bydden i'n moyn i'r strategaeth fod yn fwy na darn o bapur sy'n cael ei gyflwyno aton ni i gyd.

"Bod e ddim jyst yn tic bocs."

Oes, mae 'na adroddiadau, strategaethau wedi eu cyhoeddi.

Mae'r amser wedi dod i sicrhau newid gwirioneddol meddai trigolion yr ardal wledig yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.