Newyddion S4C

Cyngor Ceredigion yn wynebu gwrthwynebiad yn dilyn penderfyniad i gau ysgolion

22/10/2024

Cyngor Ceredigion yn wynebu gwrthwynebiad yn dilyn penderfyniad i gau ysgolion

Dechrau Medi a 150 o gefnogwyr pedair ysgol tu fas i bencadlys Cyngor Ceredigion.
 
Er gwaetha'r brotest wnaeth Cabinet y cyngor benderfynu ymgynghori ar gau'r ysgolion.
 
Yn ôl Llywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon roedd sawl gwall yn y broses arweiniodd at y penderfyniad.
 
Ysgrifennodd eu Cadeirydd at Gomisiynydd y Gymraeg i amlygu un.
 
'O gau Llangwyryon, byddai'r cyngor yn cau ysgol sydd a'r Gymraeg fel iaith naturiol yr iard.
 
'Doedd effaith ar iaith gymdeithasol y plant ddim wedi'i hasesu.'
 
Daeth ymateb y Comisiynydd ar ôl iddi drafod y gŵyn gyda'r cyngor.
 
Yn y llythyr at Gadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg yn dweud i Gyngor Ceredigion wedi cydnabod nad yw'r ddogfen ymgynghori yn cydymffurfio gyda Safonau'r Gymraeg.
 
Maen nhw wedi derbyn cyngor ynglŷn ag addasiadau sydd angen gwneud.
 
Bydd y rheiny'n cael eu gwneud fel blaenoriaeth.
 
Gan fod Cyngor Ceredigion wedi syrthio ar ei fai dywedodd y Comisiynydd na fydd ymchwiliad i'r cyngor ar y mater.
 
Yn ôl rhiant i ddau o blant Llangwyryfon ddylai'r cyngor ddim bwrw 'mlaen â'r cynnig i gau'r ysgol.
 
"Mae'n bryd dechrau meddwl ydyn nhw'n gwneud eu gwaith yn iawn.
 
"Y safiad maen nhw'n honni bod nhw'n mynd i safio wrth gau'r ysgol yn chwerthinllyd i gymharu â'r effaith ar y gymuned a'r plant sy'n betrusgar.
 
"Dylse cau ysgol Gymraeg gryf fel hon ddim fod ar eu rhestr nhw."
 
Dywedodd y cynghorydd sir lleol fod pobl wedi holi os oes gwallau eraill yn y ddogfen ymgynghori.
 
"Dw i wedi cael llwyth o alwadau a bobl yn gofyn beth arall sy'n anghywir yn y ddogfen.
 
"Ni 'di gweld bod y ffigyrau oedd am £30,000 am gost y bysys wedi mynd i fyny i £70,000 ac amcangyfrif ydy o'n dal.
 
"Os ydy hwnna'n gywir neu os yw'n fwy, 'sdim safio o gwbl."
 
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno hefyd i Lywodraeth Cymru gan honni nad oedd y cyngor wedi dilyn y Côd Trefniadaeth Ysgolion.
 
Mae'n dweud dylai fod rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor.
 
"Mae'n nodweddiadol o'r brys sydd wedi bod.
 
"Maen nhw wedi penderfynu bod nhw am gau pedair ysgol ac wedyn ticio bocsys yn unig.
 
"Fel mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud dy'n nhw heb ystyried Llangwyryfon fel ysgol naturiol Gymraeg
 
"Cymraeg yw iaith iard yr ysgol.
 
"Mae'n un o'r llefydd pwysicaf i ni gadw."
 
Doedd neb ar gael o Gyngor Ceredigion i wneud cyfweliad ond byddan nhw'n cyhoeddi dogfen ymgynghori diwygiedig ar ei wefan ac ymestyn y cyfnod ymgynghori i roi cyfle i bobl ymateb.
 
Yn y cyfamser, bydd ymgyrch Llangwyryfon yn parhau tra bod dyfodol yr ysgol yn bell o fod yn glir.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.