Newyddion S4C

Carcharu nyrs am bum mlynedd am ffugio ei chymwysterau

ITV Cymru
itv.png

Mae dynes a roddodd wybodaeth ffug am ei chymwysterau mewn ceisiadau a chyfweliadau ar gyfer swydd fel uwch nyrs mewn uned newydd-enedigol wedi cael ei charcharu am dwyllo.

Cafodd Tanya Nasir, 45, ei chanfod yn euog o naw cyhuddiad o dwyll, defnyddio offeryn ffug yn fwriadol, meddu ar ddeunydd i'w defnyddio mewn twyll a sicrhau mynediad anawdurdodedig at ddeunydd cyfrifiadurol yn fwriadol.

Mae Nasir, sy'n wreiddiol o Sir Hertford, wedi’i dedfrydu i bum mlynedd mewn carchar.

Fe ddechreuodd dwyllo yn 2010, pan fethodd â datgelu euogfarn yn ystod ei hamser yn astudio nyrsio ym Mhrifysgol New University yn Sir Buckingham. 

O Chwefror 2013 hyd at Hydref 2015, roedd hi’n gweithio fel cynorthwydd nyrs yn Ysbyty Hillingdon ac yn dilyn cymhwyster yno yn gweithio dros gyfnod byr yn Ysbyty Spire Bushey yn Watford fel nyrs gofrestredig cyn iddi ddychwelyd i Ysbyty Hillingdon ym Mehefin 2019.

Image
itv

Ym Medi 2019, cafoedd Nasir ei chyflogi fel rheolwr ward newydd-enedigol yn Ysbyty Tywosoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Darganfuwyd bod gwybodaeth oedd Nasir wedi ei roi ar ei ffurfleni cais i weithio yn Ysbyty Tywosoges Cymru ac Ysbyty Hillingdon yn ffug.

Yn Ionawr 2020, cafodd pryderon eu codi gan ei rheolwr llinell yn Ysbyty Tywosoges Cymru wrth i ghofrestriad Nasir gyda Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gael ei ail-ddilysu.

Darganfuwyd anghysondeb gyda’i geirda swydd ar ôl gwiriadau pellach yn ei chais gwaith a’i CV.

Yn dilyn hynny cafodd Nasir ei gwahardd o’i swydd fis Chwefror 2020 a lansiwyd ymchwiliad, gan ddod o hyd i anghysondebau gyda chymwysterau’r diffynnydd.

Yn ei chais honnodd ei bod wedi cymhwyso fel nyrs ac iddi gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn 2010. Ond cadarnhaodd swyddogion gyda'r brifysgol na gymhwysodd tan 2014.

Image
Screenshot 2024-10-18 at 14.16.22.png

Cafodd gwiriadau pellach eu gwneud gyda phedair prifysgol arall yr oedd Nasir yn dweud ei bod hi wedi ennill cymwysterau ganddynt. 

Ond cadarnhaodd tair prifysgol nad oedd hi erioed wedi astudio yno, a chadarnhaodd y bedwaredd ei bod wedi mynychu ond nad oedd ganddyn nhw unrhyw gofnod ei bod wedi ennill y cymwysterau a nododd ar ei chais.

Cysylltwyd â’i chyn-gyflogwyr hefyd a chadarnhaon nhw bod Nasir un ai heb weithio’r rôl roedd hi wedi’i chofnodi ar ei cheisiadau, neu heb weithio yno o gwbl.

Ar 21 Ebrill 2021, cafodd Nasir ei harestio. 

Fe’i cafwyd yn euog yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd yn gynharach eleni.

Image
Screenshot 2024-10-18 at 14.16.29.png

Rhannodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ddatganiad o flaen y llys yn dilyn euogfran Nasir oedd yn dweud: “Yn dilyn ymchwiliad mewnol, fe allwn roi sicrwydd cadarn i deuluoedd…nad oedd dim niwed wedi’i achosi oherwydd cyflogaeth Ms Nasir ar y uned newydd-enedigol”

Dywedodd Gayle Ramsay, erlynydd arbenigol ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Fe aeth i drafferthion anhygoel i dwyllo’i hunan mewn i swyddi sy'n gofyn am uniondeb a gonestrwydd, ond ddangosodd hi ddim. Nid yn unig wnaeth hi fradychu ymddiriedaeth ei chyflogwyr a'i chydweithwyr, ond hefyd fe wnaeth ei gweithredoedd roi bywydau cleifion bregus mewn perygl sylweddol.

“Gan weithio gydag ymchwilwyr yn Awdurdod Atal Twyll Lleol y GIG, llwyddodd yr erlyniad i gasglu llawer o dystiolaeth a’i chyflwyno gerbron rheithgor â welodd trwy ei chelwydd a’i dyfarnu hi’n euog.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.